Newyddion S4C

Chwaraewr Wrecsam Elliott Lee wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad

12/02/2025
Elliott Lee

Cafodd chwaraewr CPD Wrecsam Elliott Lee ei gludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad car yn dilyn gêm y clwb yn erbyn Bolton Wanderers nos Fawrth.

Roedd y chwaraewr canol cae yn gyrru adref ar ôl i’r Dreigiau ennill 1-0 yn y Cae Ras. Fe chwaraeodd 63 munud o’r gêm.

Roedd y cerbyd yr oedd Mr Elliott yn ei yrru ac un car arall yn y gwrthdrawiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad ac fe gafodd Mr Lee a gyrrwr y car arall eu cludo i’r ysbyty.

Fe wnaeth y clwb gadarnhau nad oedd Mr Lee wedi dioddef anaf difrifol.

Mae gyrrwr y car arall wedi derbyn triniaeth am ei anafiadau.

Mae’r clwb wedi dweud na fydd yn "gwneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Daw'r digwyddiad wedi i gapten y clwb, James McClean, gael ei asesu gan feddygon fis diwethaf ar ôl bod mewn gwrthdrawiad “un car”.

Fe fydd Wrecsam yn chwarae eu gêm nesaf oddi cartref yn erbyn Northampton ddydd Sadwrn.

Llun: X/CPD Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.