Newyddion S4C

Cwpan Cymru JD: Dau o glybiau'r uwch gynghrair yn cyrraedd rownd yr wyth olaf

Sgorio 15/02/2025
Chwaraewyr Y Seintiau Newydd yn dathlu sgorio yn erbyn Y Barri

Dim ond dau o glybiau’r uwch gynghrair sydd wedi llwyddo i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD, a’r ddau rheiny oedd y clybiau chwaraeodd yn y rownd derfynol y tymor diwethaf, sef Cei Connah ac Y Seintiau Newydd.

Mae’r chwe clwb arall yn chwarae yn yr ail haen gyda phedwar yn aelodau o Gynghrair y De a dau o Gynghrair y Gogledd.

O’r clybiau rheiny mae yna ddau wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf erioed eleni, sef Dinbych a Chaerau Trelai.

Bydd Dinbych yn croesawu enillwyr 2010/11, Llanelli i Barc Canol ddydd Sadwrn, tra bydd Caerau Trelai yn herio deiliaid presennol y cwpan, Cei Connah ddydd Sul.

Bydd o leiaf un tîm o Gynghrair y De yn cyrraedd y rownd gynderfynol eleni gan bod Cambrian United a Chaerfyrddin yn cyfarfod yng Nghwm Clydach ddydd Sadwrn.

Ac yn Neuadd y Parc mi fydd cewri Croesoswallt, Y Seintiau Newydd yn wynebu Airbus UK, sef y ddau dîm aeth benben yn rownd derfynol 2015/16 ar y Cae Ras, Wrecsam.

Cambrian United (Haen 2) v Caerfyrddin (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00

Mae Cambrian Utd a Chaerfyrddin yn mwynhau tymor digon cyfforddus yng Nghynghrair y De gyda’r ddau glwb yn eistedd yn yr hanner uchaf, yn hafal ar bwyntiau yn y 5ed a’r 6ed safle.

Byddai buddugoliaeth i Cambrian yn gam hanesyddol i’r clwb gan nad ydyn nhw erioed wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru o’r blaen.

Cyrhaeddodd Caerfyrddin y rownd derfynol am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2004/05 cyn colli o 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ym Mharc Stebonheath, Llanelli.

Dwy flynedd yn ddiweddarach ac roedd Caerfyrddin yn ôl ar Barc Stebonheath ar gyfer rownd derfynol 2006/07, a’r tro hwn fe enillodd yr Hen Aur o 3-2 yn erbyn Lido Afan gan godi’r cwpan am yr unig dro yn eu hanes.

Ond erbyn hyn, mae hi wedi bod yn amser hir ers i Gaerfyrddin gyrraedd y rownd gynderfynol, gan nad yw’r Hen Aur wedi bod yn y pedwar olaf ers tymor 2008/09 pan gollon nhw o 3-2 wedi amser ychwanegol yn erbyn Aberystwyth.

Mae gan Gaerfyrddin record gryf yn erbyn Cambrian gan iddyn nhw ennill pump o’u chwe gêm flaenorol yn erbyn y clwb o ardal Clydach, ond Cambrian oedd yn fuddugol yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau, yn ennill o 2-1 mewn gêm gartref lai na mis yn ôl.

Teg dweud bod Cambrian wedi crafu eu ffordd trwodd i’r wyth olaf eleni ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn wedi gemau di-sgôr yn erbyn Goytre United a Lido Afan, a churo Llandudno o 3-2 diolch i gôl hwyr Daniel Birch wedi 87 munud.

Ac mae’r un peth yn wir am Gaerfyrddin hefyd, gan iddyn nhw ennill o 4-3 oddi cartref ym Mhenrhiwceibr, cyn ennill dwy gêm ar giciau o’r smotyn yn erbyn Penydarren a Hotspur Caergybi.

Y ddwy garfan yn feistri o’r smotyn felly, ond dim ond un ohonynt fydd yn camu ymlaen i gynrychioli Cynghrair y De yn y rownd gynderfynol.

Dinbych (Haen 2) v Llanelli (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Mae Dinbych wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl trechu tri ‘Llan’ yn y gystadleuaeth eleni.

Ar ôl curo Llangefni, Llanrwst a Llanuwchllyn yn gyfforddus, doedd hi’n ddim syndod mai Llan arall ddaeth allan o’r het ar gyfer yr wyth olaf.

Mae Dinbych yn eistedd tua chanol y tabl yng Nghynghrair y Gogledd, ond mae gwaith mawr yn mynd ymlaen oddi ar y cae er mwyn ceisio datblygu’r clwb i dyfu ac esblygu.

Mae Llanelli yn mwynhau tymor llwyddiannus yng Nghynghrair y De, mewn safle cryf i sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 2019, ac wedi llwyddo i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf ers 14 mlynedd.

Yn 2011 fe enillodd Llanelli Gwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes, yn curo Bangor yn y rownd derfynol gyda Rhys Griffiths a Chris Venables ymysg y sgorwyr i’r Cochion ar Barc y Scarlets y diwrnod hwnnw.

Mae tîm Lee John ar rediad o 17 o gemau heb golli ers dechrau mis Hydref (ennill 14, cyfartal 3) ac mewn brwydr gyffrous gyda Threthomas ar frig tabl Cynghrair y De.

Dyw Llanelli heb ildio gôl yn eu tair gêm gwpan hyd yma ar ôl trechu Clwb Cymric (0-3) o’r bumed haen, Pilgwenlli (4-0) o’r bedwaredd haen ac Hwlffordd (0-2) o’r uwch gynghrair yn y rowndiau blaenorol.

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb yn yr unig gêm rhwng tîm o Gynghrair y Gogledd a thîm o Gynghrair y De.

Y Seintiau Newydd (Haen 1) v Airbus UK (Haen 2) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Yn Neuadd y Parc mi fydd y tîm sydd ar frig y Cymru Premier JD yn croesawu’r tîm sydd ar frig Cynghrair y Gogledd.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru ar naw achlysur, a dim ond yr Alltudion sydd wedi ennill mwy - Wrecsam (23), Caerdydd (22), Abertawe (10).

Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 13 ffeinal (ennill 9, colli 4), ac wedi cyrraedd wyth o’r naw rownd derfynol ddiwethaf, gan ennill chwech o’r rheiny yn erbyn chwe clwb gwahanol (Aber, Drenewydd, Airbus, Cei Connah, Pen-y-bont, Bala).

Ond colli’n annisgwyl yn y rownd derfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, gyda Chei Connah yn cipio’r cwpan, a bydd Craig Harrison yn ysu i adennill y tlws eleni.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus UK, yn cynnwys buddugoliaeth o 1-0 yn gynharach y tymor hwn yng Nghwpan Nathaniel MG.

Daeth y cyntaf o’r 10 buddugoliaeth rheiny yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2016 gyda’r Seintiau yn ennill o 2-0 ar y Cae Ras diolch i goliau gan Ryan Brobbel a Scott Quigley.

Ers hynny mae’r Seintiau wedi sicrhau canlyniadau rhyfeddol yn erbyn Airbus, yn ennill 12-0, 8-0 a 7-0 mewn gemau cynghrair rhwng 2019 a 2022.

Mae’r Seintiau felly wedi sgorio cyfanswm swmpus o 60 o goliau yn eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus (cyfartaledd o 5 gôl y gêm).

Ebrill 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Seintiau, gyda Chris Budrys yn sgorio ddwywaith i fechgyn Brychdyn mewn gêm gynghrair ar y Maes Awyr (Air 3-2 YSN), ond mae bron i 20 mlynedd wedi pasio ers i Airbus ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.

Mae Airbus wedi trechu Porthmadog, Goytre a Chaersws i gyrraedd rownd yr wyth olaf tra bo’r Seintiau wedi curo Met Caerdydd a Bae Colwyn ar ôl chwalu Llangollen o 16-0 yn yr ail rownd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.