The Vivienne wedi marw 'o achosion annaturiol'
Bu farw’r seren drag o Fae Colwyn, The Vivienne o ‘achosion annaturiol’, mae cwest wedi clywed.
Cafodd James Lee Williams, enillydd y gyfres RuPaul’s Drag Race, eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Sir Gaer ar ddydd Sul 5 Ionawr.
Cafodd cwest i farwolaeth James Williams, 32 oed, ei hagor a’i gohirio yn Llys Crwner Sir Gaer yn Warrington ddydd Mercher.
Dywedodd swyddog y crwner Amanda Edagr bod Williams wedi eu darganfod yn farw yn ystafell ymolchi eu cartref yn Chorlton-by-Backford, ger Caer.
Roedd yr heddlu yn bresennol ac fe gadarnhawyd nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus ynghlwm â’r farwolaeth.
Dywedodd Ms Edgar: “Mae profion post-mortem wedi eu cynnal, gan ddangos marwolaeth oherwydd achosion annaturiol.”
Dywedodd Crwner y rhanbarth, Victoria Davies: “Gan ystyried achosion annaturiol y farwolaeth, mae’n addas i mi agor y cwest i farwolaeth James Lee Williams yn ffurfiol.”
Ychwanegodd bod angen cynnal ymchwiliadau pellach. Cafodd yr achos ei ohirio gyda’r cwest llawn wedi’i drefnu ar gyfer 30 Mehefin.
Yn wreiddiol o Fae Colwyn, fe symudodd The Vivienne i Lerpwl yn ddiweddarach a chael yr ysbrydoliaeth yno am eu henw drag.
Wrth siarad yn 2019 dywedodd bod pobl leol yno yn aml yn eu galw yn ‘Vivienne’ gan eu bod nhw wastad yn gwisgo dillad Vivienne Westwood.
Cafodd angladd The Vivienne ei gynnal ym Modelwyddan ar 27 Ionawr, gyda chanwr y band Steps Ian ‘H’ Watkins, yr actores Coronation Street, Claire Sweeney, a’r bersonoliaeth teledu Kim Woodburn ymhlith y galarwyr.