Newyddion S4C

Angladd The Vivienne yn cael ei gynnal yn Sir Ddinbych

27/01/2025
Angladd The Vivenne

Mae angladd y seren drag o Fae Colwyn, The Vivienne wedi ei gynnal yn Sir Ddinbych, gyda chanwr y band Steps Ian ‘H’ Watkins ymhlith y galarwyr. 

Bu farw James Lee Williams yn gynharach yn y mis yn 32 oed. 

Yn gwisgo siwt tartan, cerddodd Ian Watkins i'r eglwys ym Modelwyddan gyda'r ddigrifwraig Jayde Adams a ffrindiau eraill. 

Image
Ian Watkins yn angladd The Vivenne

Roedd blodau ar yr arch gyda'r ysgrifen “Vivienne” a “Mab”.

Enillodd James Lee Williams, a oedd yn defnyddio'r enw adloniant The Vivienne, gyfres gyntaf RuPaul’s Drag Race UK gan ddod yn drydydd ar y rhaglen Dancing On Ice yn 2023.

Hoffter o ddillad Vivienne Westwood oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r enw The Vivienne. 

Lluniau: PA

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.