Dyn a dynes yn eu 90au wedi marw mewn tân
Mae dyn a dynes, y ddau yn eu 90au, wedi marw wedi tân mewn tŷ.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tân yn Stryd Adam, Abertyleri ym Mlaenau Gwent, ddydd Sul am 07.55, meddai Heddlu Gwent.
Roedd y ddau wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd y llu fod eu perthnasau agosaf yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
“Daeth cadarnhad gan feddyg bod dau berson, dyn a dynes a’r ddau yn eu 90au, wedi marw yn y fan a’r lle gan feddyg,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Mae eu perthynas agosaf yn ymwybodol ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol."