Yr actores Buddug Williams wedi marw yn 88 oed

25/07/2021
Buddug Williams

Mae’r actores Buddug Williams, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn yr opera sebon Pobol y Cwm, wedi marw yn 88 oed.

Roedd yn aelod gwreiddiol o gast y gyfres yn 1974 yn chwarae Bet Harries, mam Sabrina a Reg.

Ond yn fwy diweddar, fe ddychwelodd i’r gyfres gan chwarae rhan ‘Anti’ Marian Rees rhwng 1999 a 2016.

Fe ymddangos hefyd yn y ffilm Twin Town yn chwarae’r cymeriad Mrs Mort.

 

Dywedodd Gwyn Elfyn, a chwaraeodd ei nai Denzil yn Pobol y Cwm: "O'n i'n gyfarwydd iawn â Buddug ar hyd y blynyddoedd a gwaith amatur lot o'n ni 'di 'neud".

Wrth gofio am eu cyfnod yn cyd-weithio ar yr opera sebon, dywedodd Mr Elfyn: "Y gwir yw o'dd hi wrth ei bodd, o'dd hi wrth ei bodd yn chwarae'r cymeriad, o'dd hi wrth ei bodd yn cael ei hadnabod fel Anti Marian, o'dd hi'n mwynhau e".

Ychwanegodd: "Gethon ni amser da iawn a gweud y gwir a sawl golygfa, sawl flwyddyn hapus iawn".

Roedd Buddug Williams yn hanu o Garreg Hollt, ger Crosshands. 

Wrth hyfforddi i fod yn athrawes yng Ngholeg y Barri, daeth dan ddylanwad yr awdur a’r cynhyrchydd drama Norah Isaac, a oedd yn diwtor yn y coleg ar y pryd.

Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio fel athrawes, gan gynnwys cyfnod yn ninas Birmingham yn ystod y 1950au.

Dychwelodd i Gymru a dysgu yn Sir Gaerfyrddin, cyn dechrau ar yrfa yn y byd actio.

Ymddangosodd mewn nifer o gynyrchiadau amatur, cyn cael rhan yn Priodas Dda, drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1974.

Yno, daeth ei pherfformiad i sylw cynhyrchydd Pobol y Cwm, John Hefin, ac fe gafodd ei dewis i ymuno â chast y gyfres.

Wedi iddi adael y gyfres, fe ddychwelodd Buddug Williams i’w gyrfa fel athrawes.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe barhaodd i actio ar lwyfan ac ar y sgrin, cyn dychwelyd i Bobol y Cwm bron i chwarter canrif yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.