Newyddion S4C

Wrecsam: Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerddwr a dau gerbyd

03/02/2025
Ffordd Wrecsam

Mae un dyn wedi marw a dyn arall yn yr ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerddwr a dau gerbyd.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng dau gerddwr, car a lori ar yr A534 ger yr Holt Lodge Inn ar Ffordd Wrecsam am 19.09 nos Sul.

Bu farw un dyn yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn arall ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol sy'n peryglu ei fywyd, meddai'r llu.

Dywedodd Sarjant Leigh McCann o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hyn bellach yn ymchwiliad gwrthdrawiad ffordd angheuol ac mae ein meddyliau gyda theuluoedd y ddau ddyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Rydym yn annog unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio neu gerdded ar hyd Ffordd Wrecsam neu'r Holt Lodge Inn ac sydd efo gwybodaeth neu luniau dashcam i gysylltu â ni."

Ychwanegodd bod y ffordd ar gau tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu ar wefan yr heddlu neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod C015671.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.