Dyn 27 oed yn y ddalfa wedi digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu
Cyhoeddodd yr heddlu fod dyn 27 oed o Lantrisant wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod, cynnau tân yn fwriadol, ac achosi difrod troseddol y tu allan i orsaf heddlu yn Rhondda Cynon Taf.
Wrth gyhoeddi diweddariad brynhawn Sadwrn, dywedodd Heddlu De Cymru fod tri phlismon wedi eu hanafu, a bod dau ohonyn nhw wedi cael triniaeth mewn ysbyty, ar ôl y digwyddiad y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau nos Wener.
Mae'r ddau bellach wedi gadael yr ysbyty.
Yn ôl yr heddlu, fe aeth dyn i'r orsaf toc cyn 19:00 nos Wener gan ddifrodi cerbydau'r heddlu.
Cafodd ei arestio ac mae e'n dal yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones : "Yn gyntaf, rwy'n dymuno diolch i'r gymuned leol, a'r cyhoedd yn ehangach am eu cefnogaeth i'r swyddogion a gafodd eu hanafu.
"Dangosodd ein swyddogion ddewrder aruthrol, ac er eu bod wedi eu hysgwyd, rydw i'n falch o nodi nad oes yr un ohonyn nhw wedi cael anafiadau difrifol.'
"Rydym yn nyddiau cynnar ein hymchwiliad, ac ar hyn o bryd, dyw'r rheswm dros yr ymosodiad ddim yn glir. Rydym yn ceisio darganfod yr amgylchiadau'n llawn, ond rydym o'r farn mai'r heddlu oedd y targed.
"Rwy'n deall bod hyn wedi achosi sioc a phryder yn y gymuned leol. Ond rwyf eisiau pwysleisio nad oes lle i gredu fod bygythiad ehangach i'r cyhoedd."