Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Crasfa i Gymru ym Mharis

31/01/2025
Ffrainc v Cymru

Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch Chwe Gwlad 2025 gyda chrasfa 43-0 yn erbyn Ffrainc ym Mharis nos Wener.

Cyn y gêm roedd llawer yn rhagweld mai’r tîm cartref oedd y ffefrynnau mawr, ond bydd y ffaith na lwyddodd y Cymry i sgorio unrhyw bwyntiau dros yr 80 munud yn destun pryder i Warren Gatland a’r cefnogwyr.

Dyma oedd 13eg colled y cochion o’r bron, a ffordd siomedig i ddechrau’r flwyddyn newydd.

Yng nghrochan y Stade de France, fe ddechreuodd Cymru mewn modd digon calonogol, drwy drafod y bêl yn daclus, ond heb wir roi’r tîm cartref dan bwysau.

Roedd bygythiad y Ffrancwyr yn fwy amlwg, ac ni chymerodd yn hir iddyn nhw ddangos eu doniau sylweddol.

Moment o athrylith gan y mewnwr Antione Dupont lwyddodd i ddad-gloi amddiffyn ystyfnig y Cymry, gyda chic letraws berffaith yn canfod Théo Attissogbé, a diriodd am y cais cyntaf. Llwyddodd Thomas Ramos gyda’r trosiad.

Wedi 23 munud, daeth y don las unwaith eto ac er gwaethaf ymdrechion y wal goch, daeth ail gais Ffrainc gyda’r asgellwr arall, Louis Bielle-Biarrey yn sgorio. Ramos yn llwyddo unwaith eto gyda’r trosiad, i’w gwneud hi’n 14-0 i’r tîm cartref.

Saith munud yn ddiweddarach a gyda’r cochion yn parhau i frwydro, fe gafodd bachwr Cymru, Evan Lloyd, gerdyn melyn ar ôl tacl uchel ar Bielle-Biarrey. 

Ar ôl adolygu’r dacl, penderfynodd y Swyddog Fideo yn ddiweddarach i beidio ag uwchraddio’r drosedd gerdyn coch.

Daeth dewiniaeth Dupont i’r amlwg unwaith eto wedi 33 munud, drwy redeg drwy linell amddiffyn Cymru, cyn dadlwytho i Attisogbe ar yr asgell, am ei ail gais. Ac unwaith eto, roedd Ramos yn gywir gyda’i gic.

Roedd y Ffrancwyr yn ennill tir gyda’r bêl yn rhwydd, yn wrthgyferbyniad llwyr i Gymru, a oedd yn ei chael hi’n anodd bygwth y llinell gais.

Gyda’r pwysau yn parhau i bentyrru, a Chymru ddyn yn ysgafn, roedd y pedwerydd cais yn anochel. 

Ac fe ddaeth ym munud ola’r hanner cyntaf gyda Bielle-Biarrey yn sgorio’i ail gais o’r gêm, gyda chic gywir Ramos yn ei gwneud hi’n 28-0 i’r tîm cartref ar hanner amser.

Ail hanner

Dechreuodd y Cymry gyda phwrpas wedi’r egwyl, gyda symudiad chwim rhwng Josh Adams, Tomos Williams a Jac Morgan, yn mynd a’r ymwelwyr i 22 Ffrainc.

Ond daeth y pwysau i ddim yn y pen draw, ac unwaith eto, y tîm cartref sgoriodd y pwyntiau nesaf gyda Julien Marchand yn tirio ar ôl sgarmes symudol bwerus.

Image
Josh Adams

Roedd y gêm wedi ei hennill mewn gwirionedd ar ôl 50 munud, gyda’r cefnogwyr cartref yn ymfalchïo wrth weld eu tîm yn rheoli pob agwedd o’r gêm.

Roedd yn rhaid i’r dorf ddisgwyl tan 68 munud cyn y sgôr nesaf, gyda’r eilydd Émilien Gailleton yn sgorio ar ôl cic wych gan y maswr Romain Ntamack. Er gwaethaf Nolann Le Garrec yn methu’r trosiad, roedd Ffrainc dal 38-0 ar y blaen ac yn llwyr reoli.

Eiliadau yn ddiweddarach ac fe gafodd Ntamack ei hel oddi ar y cae ar ôl tacl uchel ar Ben Thomas. Cafodd y drosedd ei uwchraddio i gerdyn coch ar ôl adolygiad gan y swyddogion fideo.

Ond er iddyn nhw orffen y gêm gydag 14 dyn, Ffrainc lwyddodd i gael y gair olaf gyda’r wythwr Gregory Alldritt yn tirio’n bwerus i sicrhau buddugoliaeth 43-0.

Roedd y sgôr yn adlewyrchiad o’r bwlch rhwng y ddau dîm ar y noson, ac fe fydd yn rhaid i Warren Gatland godi ei dîm ar gyfer y daith i'r Eidal penwythnos nesaf.

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.