S4C yn penodi Llion Iwan yn Brif Swyddog Cynnwys
Mae Llion Iwan wedi’i benodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C.
Mae Mr Iwan yn gyn newyddiadurwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, ac yn Reolwr Gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu, Cwmni Da.
Fe fydd yn cymryd yr awenau gan Geraint Evans, a oedd yn Brif Swyddog Cynnwys dros dro yn dilyn diswyddiad Llinos Griffin yn 2023.
Cafodd Mr Evans ei benodi’n Brif Weithredwr S4C fis Tachwedd gan ddechrau yn y rôl ddechrau'r flwyddyn.
Fe fydd Mr Iwan yn ail-ymuno â’r darlledwr ar ôl gweithio yno fel Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol a Chwaraeon yn 2012 cyn dod yn Bennaeth Darlledu Cynnwys.
Cyn ymuno ag S4C, fe weithiodd i’r BBC am dros 10 mlynedd fel newyddiadurwr, cyn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC1, BBC2 a BBC4.
Dywedodd Llion Iwan: “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i wneud un o’r swyddi gorau yn y byd darlledu yng Nghymru.
“Rwy’n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda thîm mor greadigol o gomisiynwyr, yr Uwch-dim Arwain a’r staff ehangach yn S4C i ddod â’r cynnwys gorau i sgriniau bach a mawr ar hyd Cymru a thu hwnt.”
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn hynod falch o gael Llion yn ymuno â ni yn y rôl allweddol hon.
“Mae’n bennod newydd gyffrous i ni yn S4C, a bydd cael profiad eang Llion o’r sector gynhyrchu a’i ddealltwriaeth ddofn o’n cynulleidfaoedd amrywiol yng Nghymru yn werthfawr iawn wrth i ni garlamu ymlaen gyda’n trawsnewid digidol."
Bydd Llion Iwan yn dechrau yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys ym Mawrth 2025.