Achos Dyffryn Aman: Merch wedi gofyn 'ydyn nhw'n mynd i farw?'
Rhybudd: mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am hunan-laddiad
Clywodd achos llys bod merch yn ei harddegau sydd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dwy o'i hathrawon a disgybl arall wedi gofyn i'r heddlu os oeddynt am farw.
Dioddefodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl nifer o anafiadau yn ystod yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill y llynedd.
Mae'r ferch 14 oed yn gwadu'r tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Mae hi eisoes wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad llai o fwriadu anafu a bod mewn meddiant o lafn miniog.
Ddydd Iau fe wyliodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fideo o gamera corff heddwas oedd yn eistedd mewn cerbyd heddlu gyda'r diffynnydd.
Yn ystod y daith o'r ysgol i orsaf heddlu dywedodd y ferch: "Fe wnes i ei thrywanu hi... wps," wrth gyfeirio at y disgybl y gwnaeth hi ei thrywanu.
Fe wnaeth y llys hefyd wylio fideo o drafodaeth rhwng yr heddwas a'r diffynnydd.
Dywedodd yr heddwas: "Ymddiheuriadau, rwyt ti mynd i orfod delio gyda fi'n syllu arnat ti."
Fe wnaeth y ferch ymateb gan ddweud: "Mae'n iawn, dwi wedi cael llawer yn syllu arnaf heddiw. Cyn bo hir, dwi 90% yn siŵr fydd hwn ar y newyddion, felly bydd hyd yn oed mwy o lygaid arna i."
'Lladd eraill'
Ar ôl cyrraedd gorsaf heddlu Llanelli dywedodd y ferch: "Sut ydw i am wynebu fy nheulu ar ôl beth dwi wedi gwneud," cyn ychwanegu "hynny yw os ydyn nhw am droi lan."
Cafodd y rheithgor hefyd weld tudalennau llyfr nodiadau gafodd ei ddarganfod yng nghartref y diffynnydd. Ynddo roedd darluniau o Ms Elias a'r disgybl gafodd ei thrywanu.
Darllenwyd darnau o'r llyfr lle’r oedd y diffynnydd wedi ysgrifennu, ‘Rydw i eisiau gwneud rhywbeth nad yw bodau dynol i fod i wneud?’ a ‘Pam ydw i eisiau lladd eraill cymaint ag rydw i eisiau lladd fy hun?’.
Yn un o’r dyfyniadau olaf a ysgrifennwyd o dan y pennawd ‘Pethau amdanaf i,’ roedd y ferch wedi ysgrifennu ‘Rwy’n teimlo fy mod yn mynd i gyflawni trosedd unwaith mewn oes."
Mae'r achos yn parhau.