Newyddion S4C

Capten Abertawe Matt Grimes i 'ymuno â Coventry'

30/01/2025
Matt Grimes

Mae disgwyl i gapten CPD Abertawe Matt Grimes adael y clwb i ymuno â Coventry.

Fe wnaeth y clwb gadarnhau eu bod wedi derbyn cynnig am Grimes, a bod y chwaraewr ei hun wedi gofyn i adael.

Mae adroddiadau y bydd yn ymuno â Coventry, sydd yn safle 12 yn y Bencampwriaeth.

"Mae Abertawe wedi derbyn cynnig gan glwb yn y Bencampwriaeth am Matt Grimes," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Ar ôl trafodaethau, mae Matt Grimes wedi mynegi ei awydd i symud clwb ac rydym yn parchu ei benderfyniad."

Mae Grimes wedi chwarae dros 300 o gemau i'r clwb ers iddo ymuno 10 mlynedd yn ôl.

Ers i'r Elyrch ddisgyn o'r Uwch Gynghrair saith mlynedd yn ôl mae Grimes wedi bod yn ffigwr allweddol i'r clwb, ac mae wedi chwarae rhan ganolog yng nghanol y cae dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n gadael gyda'r clwb yn safle 17 yn y Bencampwriaeth.

Cyhoeddodd y clwb bod amddiffynnwr Cymru Ben Cabango wedi ei benodi'n gapten newydd ar yr Elyrch.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Luke Williams: "Mae Ben yn fachgen sydd wedi bod yn gapten ar bob tîm ieuenctid Abertawe.

"Mae'n arweinydd naturiol, felly mae'n amser iddo ddisgleirio yn y rôl hon."
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.