Cymru Premier JD: Caernarfon yn teithio i'r Bala

Mae Pen-y-bont wedi baglu yn y ras am y bencampwriaeth ar ôl colli oddi cartref ym Met Caerdydd nos Wener diwethaf.
Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio manteisio ar hynny ac agor bwlch ar y brig wrth iddyn nhw herio Met Caerdydd y penwythnos yma.
Bydd hi’n fwy o her na’r arfer i gyrraedd Ewrop eleni gan mae dim ond tri safle sydd ar gael yn hytrach na’r pedwar arferol, ac felly bydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn cystadlu’n y gemau ail gyfle yn hytrach na chamu’n syth i Ewrop.
Yn y Chwech Isaf mae’r Barri wedi torri saith pwynt yn glir yn y frwydr am y seithfed safle, ac mae’r Dreigiau yn chwarae gartref yn erbyn Y Fflint brynhawn Sadwrn.
Ar waelod y gynghrair mae Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos mewn sefyllfa gofidus, wyth pwynt o dan eu gwrthwynebwyr Llansawel sydd yn y 10fed safle.
Y Chwech Uchaf
Y Bala (6ed) v Caernarfon (5ed) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n dipyn o saga yn rhan gynta’r tymor pan gafodd y gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon ei gohirio deirgwaith oherwydd y tywydd cyn cael ei chynnal yn y pen draw ar Barc Maesdu yn Llandudno.
Caernarfon enillodd y frwydr honno wedi’r holl aros, yn curo’r Bala am y tro cyntaf mewn 13 o gemau gyda buddugoliaeth o 2-0 dair wythnos yn ôl.
Doedd selogion Y Bala’n sicr ddim yn hapus eu bod wedi gorfod chwarae eu gêm gartref yn Llandudno, a bydd criw Colin Caton yn anelu i brofi pwynt ar Faes Tegid nos Wener.
Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf am y chweched tro yn eu saith tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, a bydd y Caneris yn gobeithio adeiladu momentwm cyn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Llwyddodd Caernarfon i ennill y gemau ail gyfle llynedd a chyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, a bydd y Cofis yn ysu i ail-adrodd y gamp eto eleni.
Bydd Y Bala’n cystadlu i gyrraedd Ewrop am y 10fed tro yn eu hanes, ond er hynny dyw’r clwb ond wedi ennill un rownd Ewropeaidd, sef yr un nifer â Chaernarfon.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖❌✅❌
Caernarfon: ✅❌❌✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.