Cynllun i godi amffitheatr mewn tref yn Sir Gâr
Mae disgwyl i gynllun gael ei gymeradwyo i godi amffitheatr a fyddai'n dal dros 80 o bobl mewn tref yn Sir Gâr.
Mae Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn wedi rhoi cais i greu gofod perfformio awyr agored er mwyn “creu atyniad” yn y dref.
Nod y cyngor ar gyfer yr amffitheatr fyddai i ddenu “ragor o dwristiaeth a gwariant” i’r dref.
Fe fyddai safle'r amffitheatr ar lan afon Teifi yn agos i Faes Parcio Stryd y Castell, a thua 100 metr o ganol y dref.
Mae’r cais wedi ei gyflwyno yn rhan o raglen Deg Tref gan Gyngor Sir Gâr i “gefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir”.
Roedd y cynllun gwreiddiol, a gafodd ei roi fis Mehefin y llynedd, yn cynnwys amffitheatr gydag ardal seddau â chapasiti ar gyfer 103 o bobl.
Cafodd 19 o wrthwynebiadau eu rhoi gan drigolion lleol, gan gynnwys pryderon am sain, sgil effeithiau ar iechyd drigolion a chynnydd mewn traffig.
Yn sgil yr ymgynghoriad, cafodd y cais ei ddiwygio i leihau’r capasiti i 88 o bobl.
Yn ôl y Cyngor Tref, fe fyddai’r amffitheatr ar agor yn gyhoeddus drwy’r flwyddyn, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal yno rhwng 1 Ebrill – 31 Hydref.
Ni fyddai mwy na dau ddigwyddiad y mis yn cael eu cynnal yno yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda dim digwyddiadau ar ddydd Sul nac ar ddiwrnodau'r farchnad da byw, sef bob ddydd Iau a bob yn ail ddydd Mawrth ar hyn o bryd.
Mae adroddiad gan adran gynllunio Cyngor Sir Gâr yn nodi y byddai’r datblygiad yn cael ei adeiladu o fewn gofod gwyrdd, ond ni fyddai’n amharu ar allu “pobl ac ymwelwyr i orffwys, myfyrio ac ymweld â’r amgylchedd”.
Er ei fod yn cydnabod y byddai sain ychwanegol mewn digwyddiadau, ni fyddai yn cyrraedd y lefelau a fyddai’n arwain at “sgil effeithiau niweidiol” i drigolion lleol, yn ôl yr adroddiad.
Mae’r adran gynllunio wedi argymell cynghorwyr i dderbyn y cais.
Fe fydd yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio'r awdurdod ddydd Iau.