Caerdydd: Cynllun i adeiladu neuadd fwyd newydd yn arcedau'r Castell
Fe allai neuadd fwyd newydd gael ei hadeiladu mewn rhai o arcedau hanesyddol Caerdydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r cynlluniau ar gyfer neuadd fwyd yn Arcedau y Castell (Castle Quarter Arcade) yn y brifddinas yn cynnwys lle ar gyfer 12 o fasnachwyr bwyd stryd annibynnol, bwytai, mannau digwyddiadau a lleoliad priodas.
Dywedodd y cwmni, Loft Co eu bod wedi ymrwymo i warchod Arcedau y Castell, sydd yn adeilad rhestredig Gradd II.
Mae'r cwmni y tu ôl i waith ailddatblygu Goodsheds (Y Barri), Marchnad Casnewydd a neuadd fwyd Albert Hall yn Abertawe.
Mae disgwyl i Neuadd Fwyd HYS, fel y mae’r cynllun yn cael ei alw, agor ddiwedd 2025 yn ôl y datblygwyr.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Loft Co, Simon Baston: “Rydym yn hynod falch o adeiladu neuadd fwyd fwyaf Caerdydd, a hynny mewn lleoliad mor eiconig.
“Caerdydd yw un o’r dinasoedd craidd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac fel ein prifddinas, mae’r prosiect hwn yn agos at ein calon.
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i arddangos y gorau o dreftadaeth Caerdydd tra’n creu rhywbeth hollol newydd a chyffrous i’r ddinas.
“Rydyn ni wedi gweld sut mae neuaddau bwyd wedi adfywio trefi a dinasoedd ledled Cymru. Allwn ni ddim aros i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y datblygiad hwn yn ei gael yng Nghaerdydd."
Mae’r cynigion ar gyfer y neuadd fwyd yn cynnwys:
⦁ 12 o fasnachwyr bwyd stryd annibynnol, fydd yn "arddangos ystod amrywiol o fwydydd".
⦁ Bwytai.
⦁ Mannau Digwyddiadau, ar gyfer bwyta preifat, dathliadau, gweithdai a chyfarfodydd "mewn mannau unigryw syfrdanol."
⦁ Lleoliad Priodas
Llun: Rio Architects