The Traitors: Dynes o ogledd Cymru yn fuddugol ar ôl cael 'bywyd anodd'
Mae trydedd gyfres The Traitors wedi dirwyn i ben a mae dynes sy'n byw yng ngogledd Cymru wedi dod yn gydradd gyntaf.
Roedd Leanne Quigley o Dreffynnon, Sir y Fflint, yn un o'r Ffyddloniaid yn y gyfres sy’n cael ei chyflwyno gan Claudia Winkleman.
Llwyddodd Leanne i ennill y gyfres ynghyd â Jake Brown o Barrow-in-Furness, gan gipio £47,300 yr un ar ôl iddyn nhw lwyddo i gael gwared o'r Bradwyr i gyd.
Yr olaf o'r Bradwyr oedd Charlotte o Lundain a oedd wedi cymryd arni ei bod yn Gymraes - gan gynnwys siarad ag acen ffug - drwy gydol y gyfres.
Cyrhaeddodd Leanne y ffeinal ynghyd â thri o Ffyddloniaid eraill, ond pleidleisiodd Leanne a Jake i gael gwared â’r ddau arall oherwydd eu bod yn amau yn anghywir eu bod nhw'n Fradwyr hefyd.
Enillodd y cyn-filwr 28 oed er iddi gamarwain y cystadleuwyr eraill drwy honni ei bod yn artist ewinedd.
Dywedodd ei bod wedi ymgeisio i fod yn rhan o’r gyfres oherwydd ei bod yn gallu dweud celwydd heb gael ei dal a bod y rhaglen yn “hwyl”.
Dywedodd Leanne cyn iddi ffilmio’r rhaglen: “Rwy'n meddwl y byddaf yn dod â llawer o frwdfrydedd i’r tîm...rwy'n berson brwdfrydig iawn.
“Rwyf bob amser, hyd yn oed os oes pethau nad wyf eisiau eu gwneud, yn ceisio ei wneud mewn ffordd frwdfrydig, oherwydd mae'n well dod â thipyn o olau i sefyllfa dywyll.”
'Lwcus'
Roedd angen i’r cystadleuwyr gymryd rhan mewn heriau gwahanol ym mhob pennod er mwyn ychwanegu arian at y wobr.
Roedd Leanne wedi rhagweld o’r dechrau y byddai’n “wych” ynddyn nhw oherwydd ei phrofiad yn y Fyddin.
“Rydw i wedi bod yn y Fyddin ers 12 mlynedd, ‘dw i wedi gwneud llawer o ymarfer corff… dwi’n gallu bod ychydig yn bossy, ond rwy’n mynd i geisio dal yn ôl rhag rhoi cyfarwyddiadau a bod yn chwaraewr tîm," meddai.
Cafodd sawl sgwrs ar y rhaglen am yr anawsterau a’r heriau y mae wedi bod drwyddyn nhw yn ei bywyd, gan ennyn cydymdeimladau gan ei chyd-chwaraewyr a’r genedl.
“Rydw i wedi cael bywyd anodd”, meddai.
Dywedodd ei bod am wario’r arian ar gael triniaeth IVF unwaith eto.
“Es i drwy IVF gyda fy mechgyn, ac roeddwn i'n wael iawn trwy gydol fy meichiogrwydd… dim ond 26 wythnos oedd y bechgyn pan gawson nhw eu geni.”
Dywedodd: “Gan fy mod i mor wael ar y pryd rwy'n teimlo fy mod wedi colli allan ar fwynhau'r cyfnod newydd-anedig hwnnw.”
“Rydw i mor ddiolchgar i'w cael, a dwi mor lwcus eu bod nhw'n fyw… byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gael babi arall a gobeithio cael ychydig o brofiad gwell a gwneud ein teulu ychydig yn fwy," meddai.