Newyddion S4C

'Ddim yn bosib' i Gymru gystadlu yn Eurovision

26/01/2025
Eurovision

"Nid yw'n bosib" ar hyn o bryd i Gymru gystadlu yng nghystadleuaeth canu Eurovision meddai trefnwyr y digwyddiad.

Roedden nhw'n ymateb i gais am wybodaeth gan bwyllgor deisebau'r Senedd ar ôl cyflwyno deiseb yn galw am i Gymru gael cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Yn y llythyr dywedodd cadeirydd pwyllgor gweithredol Eurovision, Bakel Walden, "nad oes modd" i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun tra bod y BBC yn darlledu’r sioe.

Roedd y BBC yn cynrychioli’r DU gyfan felly doedd dim modd i un rhan o’r DU yrru eu hymgeisydd unigol ei hun, meddai.

“Mae cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, a digwyddiadau byw eraill Eurovision, wedi’i gyfyngu i ddarlledwyr cyhoeddus sy’n aelodau o’r Undeb Darlledu Ewropeaidd,” meddai Bakel Walden.

“Mae S4C yng Nghymru yn aelod gwerthfawr o’r EBU ac wedi cymryd rhan ddwywaith yn yr Junior Eurovision Song Contest ac unwaith yn Eurovision Choir.

“Ond mae’r BBC wedi cymryd rhan yn Eurovision ers 1957 ac yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan yn y digwyddiad.

“Wrth i’r BBC barhau i gymryd rhan, a pharhau i gadw gafael ar hawliau darlledu yn y Deyrnas Unedig, mae hyn yn golygu nad yw cais gan genhedloedd unigol y DU felly yn bosibl.”

‘Dim synnwyr’

Dywedodd S4C eu bod yn "aelod gweithgar o'r Undeb Ddarlledu Ewropeaidd ac yn falch o fod wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Côr yr Eurovision a chystadleuaeth Iau'r Eurovision yn y gorffennol pan benderfynodd darlledwyr mawr eraill i beidio â chymryd rhan ar lefel y DU."

Ychwanegodd y sianel: "Mae’r DU yn cael lle yng nghystadleuaeth canu Eurovision drwy’r BBC, ac felly ni all S4C gymryd rhan ar wahân.”

Daeth galwadau i’r amlwg y llynedd i Gymru gael cystadlu yn y gystadleuaeth fel gwlad annibynnol.

Dywedodd Sara Davies, enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 nad oedd yn "gwneud synnwyr" i Gymru beidio â chael cystadlu.

Yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn 2024 roedd Plaid Cymru hefyd wedi dweud y byddai Cymru yn cystadlu yn Eurovision fel gwlad annibynnol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.