Newyddion S4C

Dyn yn ei 60au wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y canolbarth

24/01/2025
A483 ger y Trallwng

Mae dyn yn ei 60au wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn y canolbarth.

Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A483 rhwng y Trallwng ac Aberriw tua 15.20 ddydd Iau.

Roedd car Toyota Hilux a beic modur Yamaha glas yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Bu farw dyn yn ei 60au, oedd yn gyrru'r beic modur, yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion y llu.

Cafodd y ffordd ei gau dros nos wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal ac fe gafodd ei ail-agor am 03.40 y bore ddydd Gwener.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth neu luniau cylch cyfyng gysylltu gyda'r heddlu ar eu gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 25*62100.

Llun: Google
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.