Newyddion S4C

Statws newydd Caergybi fel porthladd rhydd i 'sbarduno adfywiad economaidd'

Caergybi

Bydd statws newydd Porthladd Caergybi fel porthladd rhydd yn "sbarduno adfywiad economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel", meddai Llywodraeth Cymru.

O ddydd Iau ymlaen, bydd Porthladd Caergybi yn cael ei gydnabod fel porthladd rhydd sy'n golygu y bydd ei statws trethi a thollau yn newid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd busnesau'n elwa o fod yn rhan o'r parth, gan gynnwys buddion treth, rhyddhad ar dollau tramor a gweithdrefnau tollau symlach.

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynnwys safleoedd ym Mharc Ffyniant a Pharc Cybi yng Nghaergybi.

Mae'r porthladd hefyd yn cynnwys safle M-Sparc ger Gaerwen, a dau safle tir llwyd ar Ystad Ddiwydiannol Llangefni.

Bydd yn ymuno â'r porthladdoedd rhydd arall yng Nghymru, Porthladd Rhydd Celtaidd Port Talbot ac Aberdaugleddau, yng Nghastell-nedd Port Talbot.

"Nod porthladdoedd rhydd Cymru yw sbarduno adfywiad economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Maen nhw hefyd yn anelu at ddatblygu’n hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddiad a masnach fyd-eang ar draws yr economi ac ysgogi arloesedd."

Ychwanegodd mai nôd porthladdoedd rhydd Cymru yw denu £6.5 biliwn mewn buddsoddiad a chreu tua 17,000 o swyddi. 

'Gwych'

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ei bod yn croesawu'r newyddion.

"Dyma newyddion gwych i Ynys Môn, sydd i'w groesawu'n arbennig yn dilyn y difrod diweddar yn sgil y stormydd a darodd Caergybi," meddai.

"Un o'r blaenoriaethau a nodais wrth ddod yn Brif Weinidog Cymru oedd creu swyddi a thwf gwyrdd. 

"Rwy'n falch y bydd ein porthladdoedd rhydd yng Nghymru nid yn unig yn denu buddsoddiad a swyddi, ac yn wahanol i rai eraill, maen nhw wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.