'Teimlad fod rhywbeth o'i le': Gweithwraig rheilffordd yn sôn am achub bywyd
"Roedd gen i deimlad fod rhywbeth o'i le."
Fel rheolwr trên yng Nghaerdydd, mae gan Lydia Sheppard lawer o brofiad o ymyrryd â phobl sydd mewn trafferthion.
Mae hi'n un o nifer o aelodau staff Trafnidiaeth Cymru sydd wedi cael hyfforddiant gan elusen iechyd meddwl y Samariaid yng Nghymru.
Hyd yma mae'r Samariaid yng Nghymru wedi darparu sesiwn hyfforddiant i dros 650 o weithwyr Trafnidiaeth Cymru a'u partneriaid.
Y bwriad yw galluogi gweithwyr y cwmni trenau i gefnogi ymgyrchoedd yr elusen, gan gynnwys ‘Ychydig Eiriau yn Achub Bywydau’.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ms Sheppard wedi ymyrryd â tri chwsmer oedd yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn.
"Ar ddau o’r adegau hynny, roedd yn eithaf amlwg eu bod nhw’n ofidus iawn," meddai.
"Ond ar y trydedd adeg roedd ychydig yn wahanol - roedd gen i deimlad fod rhywbeth o'i le.
"Roedd y fenyw newydd ffarwelio â rhywun ar y trên ond roedd hi’n llefain wrth ymyl y platfform.
"Roedd gen i’r teimlad ei bod hi’n fwy na’n drist o ganlyniad i ddweud hwyl fawr."
Gyda dim ond pedair munud i fynd tan y trên nesaf, fe ofynnodd Ms Sheppard i'r lein gael ei rwystro a chysylltodd â'r heddlu.
'Tawelu'r meddwl'
Ar adeg arall, roedd cwsmer wedi mynd ar lein y trên ar ddiwedd y platfform ac roedd yn rhaid i Ms Sheppard siarad â hi nes bod cymorth yn dod.
"Y pethau pwysicaf yw peidio â chynhyrfu a thawelu meddwl yr unigolyn drwy ei sicrhau nad ydynt mewn unrhyw drafferth," meddai.
"Os yw rhywun yn ofidus, mae gwneud rhywbeth syml fel dweud ‘helo’ yn gallu amharu ar y meddyliau niweidiol sydd ganddyn nhw."
Dywedodd Bethan Hodges o’r Samariaid yng Nghymru: "Gall wrando ar rywun sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng ynghyd â’u rhesymau dros fod yno fod yn anodd iawn. Rydym ar gael 24/7 i wrando a thrafod sut maent yn teimlo, a gall rheolwyr drefnu i Samariaid ffonio yn ôl pan fo’n gyfleus.
"Un peth dwi wedi sylwi arno yw bod pobl efallai wedi ymyrryd mewn sefyllfa o’r fath sbel yn ôl ac maent yn teimlo bod y foment i dderbyn cymorth wedi pasio.
"Dwi felly bob amser yn pwysleisio bod dim cyfyngiadau amser ar gymorth – mae cymorth ar gael drwy’r amser, yn ystod y dydd neu gyda’r nos."