Newyddion S4C

Penodi Sean Lynn yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru

Penodi Sean Lynn yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Sean Lynn yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru.

Mae'r Cymro o Abertawe wedi bod yn brif hyfforddwr tîm merched Hartpury-Caerloyw yn Lloegr.

Bydd yn olynu Ioan Cunningham, a adawodd ei swydd ym mis Tachwedd, yn dilyn tair blynedd wrth y llyw.

Fe gafodd Lynn ei benodi yn bennaeth rygbi merched Hartpury-Caerloyw yn 2019. 

Mae’r garfan yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru.

Bydd Lynn yn dechrau ei swydd newydd yn barhaol ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.

'Cymro balch'

Dywedodd Lynn ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr" at y bennod nesaf yn ei yrfa.

"Rwy’n Gymro balch ac felly ‘dyw hi ddim yn anodd dyfalu beth mae hyn yn ei olygu i mi," meddai.

"Mae cael fy mhenodi’n brif hyfforddwr menywod fy ngwlad yn uchafbwynt pendant yn fy ngyrfa ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda’r garfan."

Ychwanegodd: "Mae gen i brofiad o hyfforddi nifer o chwaraewyr carfan Cymru, ac rwyf wedi hyfforddi yn erbyn y mwyafrif o’r gweddill hefyd. 

"Rwy’n gwybod yn iawn fod gennym y chwarewyr i wneud ein cenedl yn falch."

Ar hyn o bryd mae Cymru'n 10fed ar restr detholion y byd.

Bydd eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau yng Nghaeredin yn erbyn Yr Alban ar 22 o Fawrth.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.