Cyhuddo dyn o geisio llofruddio baban yng Ngheredigion
Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio baban yn dilyn digwyddiad yng Ngheredigion ar ddydd Mercher, 15 Ionawr.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Y Ferwig ychydig cyn 22.15 yn dilyn galwad yn adrodd am bryderon am les baban.
Cafodd plentyn ifanc ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr critigol.
Mae Rhydian Jamieson, 27 oed, o Gwm Cou, Castell Newydd Emlyn, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Mae Jamieson wedi’i gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ar ddydd Llun 20 Ionawr.
Mae tîm ymchwiliad yr heddlu wedi diolch am gefnogaeth y gymuned tra bod ymholiadau yn cael eu cynnal.
Llun: Google