'Cyfleoedd wedi eu colli' gan yr heddlu yn achos gwrthdrawiad laddodd dau ar yr A55
Mae cwest wedi clywed bod "cyfleoedd wedi eu colli" gan yr heddlu wrth ymateb i yrrwr cyn iddo yrru'r ffordd anghywir ar yr A55, gan achosi ei farwolaeth ei hun a gyrrwr arall o Ynys Môn.
Clywodd cwest yn Rhuthun ddydd Gwener fod nifer o alwadau 999 wedi eu gwneud ar ddiwrnod y gwrthdrawiad yn dweud bod Carl Anthony Butler yn gyrru'n beryglus ar brifffyrdd yn ardal Caer.
Teithiodd Mr Butler ar ochr anghywir yr A55 am filltir tua'r dwyrain cyn taro car Nissan Qashqai oedd yn cael ei yrru gan Sean Brett o Borthaethwy.
Roedd Mr Brett yn mynd â'i wraig, Nicole i ddathlu ei phenblwydd yng Nghaer.
Bu farw Mr Brett a Mr Butler yn y fan a'r lle.
Galwadau i'r heddlu
Cafodd yr alwad gyntaf ei gwneud am 05:30 ar 26 Chwefror 2022 gan John McNeil, oedd yn gweithio mewn garej.
Dywedodd fod Mr Butler yn ymddangos fel ei fod wedi meddwi ac roedd wedi cael trafferth darganfod ei waled.
Derbyniodd Heddlu Sir Caer alwad arall am yrru peryglus Mr Butler ym maes parcio Sainsburys ym mhentref Great Broughton, cyn iddo edithio'r ffordd anghywir ar yr A55.
Clywodd y cwest fod y galwadau wedi eu categoreiddio fel rhai Gradd 4 gan yr heddlu gan fod union leoliad ac amser y galwadau ddim yn hysbys i'r heddlu.
Mae galwadau'r heddlu yn cael eu graddio o 1 i 5, ac 1 yw'r mwyaf difrifol.
Marw yn y fan a'r lle
Nid oedd swyddogion wedi ymateb pan oedd y wybodaeth wedi ei adrodd i'r ganolfan alwadau, clywodd y cwest.
Cafodd y galwadau nesaf eu gwneud ychydig cyn 12.00 pan ddywedodd Olivia Crofts bod Mr Butler yn gyrru o un ochr o'r ffordd i'r llall, gan olygu bod 17 o yrwyr wedi gorfod symud i'w osgoi.
Roedd profion yn dangos fod gan Mr Butler 360 meicrogram o alcohol fesul 100mm yn ei waed.
Dywedodd John Gittins, uwch grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, fod Mr Butler wedi cael ei arestio ar 12 Chwefror - bythefnos ynghynt - am yfed a gyrru a'i fod i fod i ymddangos yn y llys ar 4 Mawrth.
"Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw nad oedd y llaw chwith yn gwybod beth oedd y llaw dde yn ei wneud," meddai, wrth gyfeirio at yr ymateb i'r galwadau brys.
Methiannau
Fe wnaeth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu gynnal ymchwiliad i’r modd y deliodd Heddlu Caer â’r achos, a dywedodd y Prif Arolygydd Daniel Reynolds eu bod yn derbyn bod methiannau.
Ers 2022, fodd bynnag, dywedodd fod hyfforddiant y rhai sy’n asesu galwadau wedi’i gynyddu.
"Fe gollwyd cyfleoedd ond mae gwersi wedi eu dysgu," meddai.
Roedd y casgliadau naratif a gofnodwyd yn achosion y ddau ddyn, yn nodi nad oedd dim i awgrymu bod Mr Butler, a oedd yn feddw, wedi bwriadu lladd ei hun.
Dywedodd Mr Gittins y byddai'n cyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i Heddlu Sir Caer oherwydd ei bryder fod neb wedi ymateb i'r alwad i gadw llygaid ar gar Mr Butler.
Dywedodd ei fod hefyd yn bryderus efallai nad oedd staff yn derbyn yr hyfforddiant a gyflwynwyd ers y drasiedi.
"Os oes yna ddysgu i'w gael rhaid ei wneud yn fuan," meddai.