Newyddion S4C

Y cyfarwyddwr ffilm David Lynch wedi marw yn 78 oed

17/01/2025
David Lynch

Mae’r actores Naomi Watts wedi rhoi teyrnged i gyfarwyddwr Twin Peaks, David Lynch sydd wedi marw yn 78 oed.

Dywedodd Naomi Watts bod ei chalon “wedi torri” yn dilyn marwolaeth David Lynch.

Roedd David Lynch yn gyfrifol am gyfarwyddo’r rhaglen deledu boblogaidd, Twin Peaks, a ffilmiau fel The Elephant Man a Blue Velvet.

Bu farw ddydd Iau, 16 Ionawr, bum mis ar ôl i Lynch ddatgelu ei fod wedi cael diagnosis o emffysema, clefyd cronig yr ysgyfaint, ar ôl “blynyddoedd lawer o ysmygu”.

Dywedodd Naomi Watts, a oedd yn actores yn Mulholland Drive ac a aeth i'r ysgol yn Llangefni ar Ynys Môn yn ystod ei phlentyndod: “Mae fy nghalon wedi torri. Dave, fy nghyfaill… Fydd y byd ddim yr un fath hebddo ti.”

“Roedd ei fentoriaeth greadigol yn wirioneddol bwerus. Rhoddodd fi ar y map. Y byd roeddwn i wedi bod yn ceisio torri mewn iddo ers 10 mlynedd, ac wedi methu.

“O’r diwedd, eisteddais o flaen dyn chwilfrydig, yn llawn goleuni ac yn siarad fel ei fod o gyfnod arall, ac yn gwneud i mi chwerthin a theimlo’n gartrefol.”

Dywedodd Watts bod David Lynch yn ymddangos “fel pe bai’n byw mewn byd sydd wedi newid, un yr wyf yn teimlo y tu hwnt i lwcus i fod yn rhan ohono”.

“Roedd David yn gwahodd pawb i gael cipolwg ar y byd hwnnw drwy adrodd straeon diddorol, a ddyrchafodd sinema, ac ysbrydolodd genedlaethau o gyfarwyddwyr ffilm ar draws y byd,” meddai.

“Ni allaf gredu ei fod wedi mynd. Mae wedi fy chwalu i ond fe fyddaf yn ddiolchgar am byth am ein cyfeillgarwch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.