Cyhuddo menyw mewn cysylltiad â marwolaeth dyn o Gwmbran yn yr Alban
Mae menyw 32 oed wedi’i chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth technegydd RAF o Gymru fu farw mewn gwrthdrawiad yn yr Alban ym mis Mawrth y llynedd.
Bu farw'r corporal David Thorne, 43 oed, mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A96 yn Huntly yn Swydd Aberdeen am tua 11.30am, 5 Mawrth 2024.
Roedd y tad i dri o Gwmbrân, a oedd wedi bod yn yr Awyrlu Brenhinol ers 26 o flynyddoedd, ar gefn beic modur Honda VFR800 a wrthdarodd â char BMW i4.
Bu farw yn y fan a’r lle.
A hithau’n 31 oed adeg y gwrthdrawiad, ni chafodd y fenyw oedd yn gyrru’r car ei hanafu.
Mae bellach wedi ei chyhuddo mewn cysylltiad â throseddau ffyrdd honedig, meddai’r heddlu.
Bydd adroddiad bellach yn cael ei gyflwyno i’r Procuradur Ffisgal.
Roedd Mr Thorne yn gwasanaethu yn Lossiemouth ym Moray pan fu farw.
Roedd wedi gwasanaethu yn y Falklands, yn ogystal â dwywaith yn Afghanistan a Cyprus ar ddau achlysur.
Disgrifiwyd Mr Thorne, a oedd hefyd â dau o wyrion, gan gydweithwyr fel dyn “anhunanol” a oedd yn gweithio y tu hwnt i’w oriau i gefnogi hyfforddeion a helpu gyda chynnal a chadw.
Roedd hefyd wedi gweithio fel hyfforddwr a dywedodd llefarydd ar ran yr Awyrlu ar y pryd ei fod wedi “trosglwyddo ei brofiad i’r genhedlaeth nesaf o dechnegwyr Tornado a Typhoon”.