Sgïwr o Brydain wedi marw mewn 'gwrthdrawiad nerthol' yn Ffrainc
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes o Brydain farw yn dilyn “gwrthdrawiad nerthol” ar lethr sgïo yn yr Alpau yn Ffrainc.
Dywedodd yr awdurdodau yn Les Arc bod y ddynes 62 oed wedi sgïo i mewn i ddyn o Brydain oedd yn llonydd ar fynydd Aiguille Rouge ddydd Mawrth.
Bu farw’r ddynes yn fuan wedyn, ar ôl profi sioc drawmatig, yn ôl adroddiadau.
Fe dorrodd y dyn ei goes yn y gwrthdrawiad. Nid yw'r ddau berson wedi'u henwi.
Dywedodd cyfarwyddwr diogelwch llethrau’r ardal, Phillipe Janin, wrth asiantaeth newyddion AFP ei fod wedi digwydd pan oedd y ddynes yn disgyn i lethr du “wedi’i baratoi’n dda” ar fynydd Aiguille Rouge.
Mae llethrau du yn rhai serth ac anodd sy’n cael eu hystyried yn addas ar gyfer sgïwyr arbenigol a phrofiadol.
Dywedodd Mr Janin fod y ddynes 62 oed wedi colli rheolaeth ar ei sgïs cyn gwrthdaro â dyn 35 oed oedd yn llonydd ar y llethr. Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw ond bu farw’r ddynes yn fuan wedyn.
Ychwanegodd ei fod yn credu bod y ddau sgïwr wedi bod yn gwisgo helmedau, a bod y dyn wedi cael ei ruthro i’r ysbyty wedi torri ei goes.
Dywedodd yr erlynydd lleol Benoît Bachelet wrth AFP fod ymchwiliad i ddod o hyd i’r union amgylchiadau'r ddamwain ar y gweill.