Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Y ras i gyrraedd y chwech uchaf yn parhau

17/01/2025
Cei Connah v Y Bala

Mae’r ddrama’n parhau yn y ras am y Chwech Uchaf, a bron i wythnos ers yr oedd y gynghrair i fod i hollti yn wreiddiol rydyn ni’n dal i aros i weld pwy fydd yn cyrraedd yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.

Ar ôl sawl gohiriad yn Y Bala gan fod cae Maes Tegid wedi rhewi, fe gafodd rhan gynta’r tymor ei ymestyn at nos Fawrth, ac ar y noson olaf cyn yr hollt bu rhaid gohirio’r ornest dyngedfennol rhwng Cei Connah a’r Bala oherwydd y niwl trwchus ar Gae-y-Castell.

Roedd awr o’r gêm wedi ei chwarae pan ddaeth y penderfyniad terfynol i ohirio’r gêm yn llwyr gyda Chei Connah 3-0 ar y blaen bryd hynny diolch i ddwy gôl arbennig gan Rhys Hughes a gôl i’w rwyd ei hun gan Nathan Peate.

Ar ôl cyfarfod fore Mercher daeth datganiad gan Fwrdd y Gynghrair yn cyhoeddi bod rhaid ail-chwarae’r gêm yn gyfan, a hynny nos Wener yma.

Yn sgîl hynny mae clwb Cei Connah wedi rhyddhau datganiad yn nodi bod nifer o’u tîm cyntaf am fod yn absennol y penwythnos hwn gan eu bod wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw, a bydd y Nomadiaid yn gorfod chwarae nifer o’u chwaraewyr ieuenctid yn eu lle.

Dyw hyn ddim yn newyddion da i’r Barri gan yr oedden nhw yn credu eu bod nhw wedi gwneud digon i gyrraedd y Chwech Uchaf trwy gael gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd nos Fawrth.

Ond bellach byddai pwynt i’r Bala nos Wener yn eu codi uwchben Y Barri ac yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, tra ei bod hi’n amhosib i Gei Connah gyrraedd y nod gan fod Y Barri bedwar pwynt uwch eu pennau.

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe thymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond ar ôl canlyniadau nos Fawrth mae’r Nomadiaid wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni.

Mae’r Bala wedi sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am 10 tymor yn olynol, ac fel Cei Connah mae’r clwb wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop dros y degawd diwethaf.

Mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb yma wedi bod yn rhai tynn tu hwnt gyda nifer fach iawn o goliau’n cael eu sgorio.

Bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ar ddiwedd y noson ac am weddill y tymor bydd y Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Hwlffordd, Caernarfon a Met Caerdydd wedi cadarnhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond ai’r Barri yntau’r Bala fydd yn ymuno â nhw?

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ͏✅➖✅❌❌

Y Bala: ➖✅✅➖❌

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.