34 o artistiaid i elwa o gynllun cerddoriaeth Gorwelion
Bydd 34 o artistiaid yn elwa o nawdd ariannol gwerth £60,000 eleni gan gynllun cerddoriaeth Gorwelion.
Daw hyn wrth i'r prosiect ddathlu 10 mlynedd ers cael ei ffurfio.
Bwriad Gorwelion, sy'n bartneriaeth ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau yw hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru a darganfod talent newydd.
Ymhlith y rhai fydd yn elwa yn 2025 mae'r band Cyn Cwsg, y gantores Marged sy'n aelod o'r grŵp Self Esteem, Buddug y gantores o Lanrug, y DJ a'r gantores Talulah, LUVLY sef offerynnwr sy'n cyfuno rhythmau Affricanaidd eu naws â bîts cyfoes, Korrupted, sy’n enw adnabyddus yng nghymuned rapio Wrecsam a'r cerddor Llinos Emanuel.
Trwy fod yn rhan o'r prosiect mae cyfleoedd i'r cerddorion wneud pethau fel treulio amser mewn stiwdios, creu fideos i gydfynd gyda'u caneuon, prynu offer a hyrwyddo eu gwaith.
Dywedodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion: “Ar ôl dathlu degawd o raglen Gorwelion yn ddiweddar, mae’n hyfryd gallu dechrau’r Calan hwn drwy ddathlu a darganfod pob mathau o ddoniau newydd.
"Mae hwn yn teimlo’n gyfnod hynod o gyffrous yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cefnogi’r grŵp hwn o artistiaid eleni mewn ffordd ymarferol a phenodol."
Yn ôl Llinos Emanuel o Gaerfyrddin, sydd ymhlith y rheini sy’n cael arian eleni, mae bod yn rhan o'r cynllun yn mynd i fod yn fuddiol iddi.
“Rwy’ ar ben fy nigon fy mod i’n un o’r rheini sy’n cael arian gan y Gronfa Lansio yn 2025. Bydd hyn yn hwb a hanner i fy ngyrfa, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd i’r stiwdio i recordio fy mhrosiect newydd. Diolch o galon, Gorwelion.”
Ers i'r prosiect ddechrau mae 450 o artistiaid wedi derbyn cefnogaeth gan Gorwelion.