Newyddion S4C

Dedfrydu dyn o Wynedd gafodd ei arestio gan Brif Gwnstabl y Gogledd mewn siop

Blakeman

Mae dyn gafodd ei arestio gan Brif Gwnstabl y gogledd mewn siop pan nad oedd hi ar ddyletswydd wedi cael ei ddedfrydu.

Fe wnaeth Michael Smith, 39 oed, o Ddinas Dinlle, Caernarfon, ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher, 8 Ionawr ar gyhuddiad o ddwyn.

Roedd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Amanda Blakeman yn gadael M&S yn Llandudno tua 14.20 ddydd Gwener, 15 Tachwedd pan welodd ddyn yn cael ei ddal gan swyddogion diogelwch.

Cafodd wybod bod y dyn wedi dwyn gwerth bron i £270 o ddillad o'r siop, a gafodd eu darganfod yn ddiweddarach.

Arestiodd y Prif Gwnstabl Mr Smith ar amheuaeth o ddwyn cyn i swyddogion gyrraedd a'i gludo i'r ddalfa lle cafodd ei gyhuddo o'r drosedd.

Fe gyfaddefodd y cyhuddiad a chafodd ddirwy o £200 yn y llys.

Dywedodd Amanda Blakeman mewn datganiad: “Mae troseddau manwerthu yn cael effaith sylweddol ar ddioddefwyr. 

"Mae’n niweidio busnesau, cymunedau ac yn effeithio ar staff a chwsmeriaid sy’n bresennol, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau lladradau ac erlid troseddwyr fel Smith.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau breision yn ein brwydr yn erbyn troseddau manwerthu, gan gryfhau’r berthynas â manwerthwyr, gwella’n sylweddol y broses o rannu gwybodaeth a chanolbwyntio patrolau mewn ardaloedd problemus, sydd wedi cael effaith gadarnhaol.

“Rydym yn parhau i weithio’n galed ar y cynnydd hwn, tra hefyd yn cymryd camau rhagweithiol i amharu ar neu negyddu aildroseddu oherwydd caethiwed i gyffuriau neu alcohol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.