Newyddion S4C

CPD Everton yn diswyddo Sean Dyche fel rheolwr

Everton

Mae Clwb Pêl-droed Everton wedi diswyddo Sean Dyche o'i swydd fel rheolwr y clwb.

Daw'r cyhoeddiad wedi rhediad hynod o siomedig i'r Toffees yn Uwch Gynghrair Lloegr - gyda'r tîm yn sicrhau un pwynt un unig o'u 11 gêm ddiwethaf.

Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd Everton: "Gall Clwb Pêl-droed Everton gadarnhau bod Sean Dyche wedi cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau fel Rheolwr Tîm Cyntaf Dynion Hŷn ar unwaith.

"Mae Ian Woan, Steve Stone, Mark Howard a Billy Mercer hefyd wedi gadael y Clwb.

"Mae'r broses o benodi rheolwr newydd ar y gweill a bydd diweddariad yn cael ei ddarparu maes o law.

"Bydd y Prif Hyfforddwr Dan 18 Leighton Baines a Chapten y Clwb Seamus Coleman yn gyfrifol am faterion y tîm cyntaf dros dro."

Cafodd Dyche, sy'n 53 oed, ei ddiswyddo o'i swydd gydag Everton deirawr yn unig cyn i'r clwb chwarae yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA yn erbyn Peterborough United.

Mae'r cwlb yn safle 16 yn y gynghrair - un pwynt i fwrdd o'r safleoedd y cwymp i'r Bencampwriaeth.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.