Heddlu yn ceisio mynd i’r afael â gwersylla anghyfreithlon

Traeth Llanddwyn
Fe fydd presenoldeb swyddogion yr heddlu a wardeiniaid atyniadau yng ngogledd Cymru yn cynyddu dros y penwythnos, yn ôl North Wales Live.
Daw hyn ar ôl i safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, megis Parc Coedwig Gwydir, Tywyn Niwbwrch a Choed y Brenin weld cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yno, gan gynnwys pobl yn aros dros nos ac yn gwersylla yn anghyfreithlon.
O ganlyniad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Roj