Disgwyl i waith ffordd Blaenau'r Cymoedd ddod i ben wedi bron i chwarter canrif
Bydd un o brosiectau ffyrdd “mwyaf y DU” yn cael ei gwblhau yng Nghymru'r haf hwn.
Wedi bron i chwarter canrif mae disgwyl i waith ar ffordd Blaenau’r Cymoedd ddod i ben eleni.
Bydd cwblhau ffordd yr A465, Hirwaun i Ddowlais, yn golygu y bydd 17.7km o ffordd ddeuol newydd, 6.1km o ffyrdd ymyl, mwy na 14km o lwybrau teithio llesol, 38 cwlfert newydd (sef strwythur sy'n sianelu dŵr heibio rhwystr), 30 o bontydd newydd a 28 wal gynnal.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y ffordd yn gwella cysylltiadau i gymunedau’r Cymoedd, yn ogystal â de a gorllewin Cymru â Chanolbarth Lloegr a thu hwnt.
Maen nhw hefyd yn dweud bod y cynllun 23 mlynedd wedi creu cyfleodd i’r economi leol, gan gynnwys:
- creu mwy na 2,000 o swyddi newydd gyda dros hanner y rhai sy'n cael eu cyflogi yn byw yn yr ardal leol
- cyflogi 158 o brentisiaid gydag ychydig llai na hanner ohonynt yn dod o'r Cymoedd
- cefnogi mwy na 66 o fentrau cymunedol
- gwario mwy na £200 miliwn yng nghadwyn gyflenwi'r Cymoedd
- darparu mwy na 22,000 awr o ymgysylltu â disgyblion
'Cyfleoedd'
Mae'r perchennog busnes teuluol, Tony Gibbons o Atlas Groundworks Ltd yn Hirwaun yn dweud bod y prosiect wedi helpu “cryfhau ein henw da” yn y diwydiant adeiladu.
“Rydym wedi gallu creu cyfleoedd swyddi newydd i bobl leol a gwella ein sgiliau fel y gallwn ehangu ein gwasanaethau busnes," meddai.
“Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi bod yn rhan o'r prosiect arbennig hwn."
Ond nid pawb sydd wedi bod yn fodlon gyda’r gwaith ffordd.
Ac mae nifer o drigolion lleol wedi dweud bod yr holl waith ar y ffyrdd wedi creu oedi iddyn nhw ar eu teithiau dros y blynyddoedd diwethaf.
Yr amgylchedd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ‘na fanteision amgylcheddol ynghlwm â’r prosiect hefyd.
Dywedodd eu bod wedi symud rhywogaethau fel y fadfall ddŵr cribog ('great crested newt') a glöyn byw britheg y gors ('marsh fritillary butterfly') a chreu cynefinoedd newydd i gefnogi’r rhain ochr yn ochr ag ystlumod, y pathew a’r gornchwiglen.
Dywedodd y llywodraeth hefyd eu bod nhw hefyd wedi plannu mwy na 55,000 o goed a llwyni yn yr ardal leol gyda disgwyl i gyfanswm o 120,000 fod wedi eu plannu erbyn diwedd y rhaglen.
Llun: Llywodraeth Cymru