Dim awch gan mwyafrif aelodau Plaid Cymru yn y Senedd i ddisdoli Llafur medd cyn-AS
Mae un o gyn-aelodau seneddol Plaid Cymru wedi dweud bod yna ddiffyg awch ymysg mwyafrif aelodau'r blaid yn y Senedd i ddisodli Llafur.
Dywedodd Jonathan Edwards nad oedd yn gallu gweld y blaid yn ennill sedd San Steffan y tu allan i etholaethau arfordir gorllewinol Cymru os nad oedd gwleidyddiaeth Cymru’n newid yn sylweddol.
Ychwanegodd bod mwyafrif o aelodau’r blaid yn y Senedd yn hapus i aros yn rhan o wrthblaid, a bod angen i gefnogwyr y blaid ofyn cwestiynau am strategaeth Plaid Cymru os nad oedden nhw’n llwyddo i fanteisio ar broblemau'r blaid Lafur.
Fe wnaeth Jonathan Edwards gynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr o 2010 nes 2024, ond roedd yn eistedd fel aelod annibynnol o 2020 ymlaen.
Cafodd ei wahardd o'r blaid ar ôl iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig ym mis Mai'r flwyddyn honno. Mae Ann Davies o Blaid Cymru bellach yn crychioli sedd Caerfyrddin ers yr etholiad y llynedd.
Mewn erthygl ar wefan Nation.Cymru ddydd Iau dywedodd Jonathan Edwards bod Plaid Cymru wedi bod yn greiddiol i ddatganoli ond bod eu record etholiadol wedi bod yn “siomedig”.
“Ni allaf byth weld Plaid Cymru yn ennill sedd San Steffan y tu allan i arfordir y Gorllewin oni bai bod refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal sy’n arwain at newid gwleidyddol mawr, fel y digwyddodd yn yr Alban ar ôl 2014,” meddai.
Ychwanegodd: "Fy nheimlad i yw bod y mwyafrif helaeth o Aelodau Senedd Plaid Cymru yn hapus i wylio o’r cyrion fel rhan o wrthblaid.
“Dydw i ddim yn cael y teimlad fod yna unrhyw awydd tanbaid i lywodraethu Cymru ac i ddisodli Llafur."
"Os bydd Plaid Cymru yn methu â manteisio ar y cyfleoedd sydd o'i blaen, yna dylai cenedlaetholwyr Cymreig ddechrau gofyn cwestiynau difrifol i'w hunain am y strategaeth wleidyddol ar gyfer y dyfodol,” meddai.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Plaid Cymru i holi am ymateb