Y Cymro olaf Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd
Mae’r Cymro Gerwyn Price allan o Bencampwriaeth Dartiau’r Byd wedi iddo gael ei drechu yn rownd yr wyth olaf ar ddydd Calan.
Fe gafodd y cyn Bencampwr Dartiau’r Byd o Gaerffili ei guro gan Chris Dobey yng ngêm gyntaf y flwyddyn brynhawn ddydd Mercher.
Price oedd yr unig Gymro ar ôl yn y gystadleuaeth i frwydro am y teitl.
Roedd yn ddechrau addawol i Gerwyn Price wedi iddo fynd ar y blaen o ddwy set i ddim yn erbyn Dobey o ogledd Lloegr ym Mhalas Alexandra yn Llundain.
Ond fe enillodd Dobey bedair rownd yn olynol yn y ras i’r gyntaf i bump set.
Fe lwyddodd Price i greu cyfle i’w hunain trwy ennill set.
Ond gyda sgôr o 5-3, Dobey wnaeth sicrhau ei le yn y rownd gynderfynol ag yntau wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd yn “mynd yr holl ffordd”.