'Mor ddiolchgar': Gwasanaethu brys yn achub cwpl yn eu 80au ar Noswyl Nadolig
Mae cwpwl oedrannus wedi diolch i’r gwasanaethau brys am eu hachub ar ôl i’w car dorri lawr ar Noswyl Nadolig.
Torrodd car Mr a Mrs Wharfe, sydd yn eu 80au, i lawr ar yr A470 o Landudno tra oeddynt yn teithio tuag at yr A55.
Roedd eu car yn gollwng mwg ac roedd rhywun a welodd y car wedi ffonio 999.
Mae Mrs Wharfe yn rhannol ddall ac mae ei gŵr yn fyddar ac roedd y ddau yn ofnus yn aros ar ochr y ffordd ar ben eu hunain.
O fewn pum munud roedd yr heddlu wedi cyrraedd ac roedd y cwpl yn hapus iawn i'w gweld.
"Mi roedd llawer o fwg yn dod o’r car a doedden ni’n gweld dim, mi roedden ni’n meddwl bod y car ar dân.
“Mi roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth adfer i gyd mor garedig i ni.”
Ychwanegodd Mrs Wharfe: "Roedden ni’n teimlo’n ofnus iawn ar ochr y ffordd brysur. Mi wnaeth y bobl a ddaeth i’n helpu gwneud i ni deimlo’n ddiogel a thawelu ein meddyliau.
“Mi roedden nhw’n amyneddgar iawn efo ni, er mai Noswyl y Nadolig oedd hi."
Fe wnaeth yr heddlu fynd â'r hen nain a thaid adref, ac mi wnaethon nhw fwynhau’r profiad o fod mewn car heddlu am y tro cyntaf.
“Mi ddywedodd yr heddlu wrthon ni beidio â phoeni, ac na fydden nhw’n ein gadael ni tan ein bod adre’n ddiogel," meddai Mr Wharfe.
“’Dw i mor falch nad oedd unrhyw un wedi’u hanafu, efo gymaint o bobl yn trio mynd adref ar gyfer y Nadolig.
“Mi gawsom ni ofal a sylw rhagorol gan y gweithwyr ambiwlans, wnaeth wneud yn siŵr ein bod yn iawn, ac mi wnaeth y gwasanaeth tân edrych dros y car cyn iddo fynd efo’r gwasanaeth adfer.”
Mae’r cwpwl wedi bod yn briod ers dros 60 mlynedd, ac mi ddywedon nhw y bydden nhw’n dathlu Nos Galan drwy roi llwnc destun i weithwyr y gwasanaethau brys.