Newyddion S4C

Tŷ Ffit: Cyfres newydd 'sy'n newid bywydau' yn cychwyn ar S4C

01/01/2025
Cleientiaid Ty Ffit

Bydd cyfres newydd Tŷ Ffit "sydd yn newid bywydau pobl" yn cychwyn ar S4C ar 7 Ionawr.

Yn y gyfres, sydd yn cael ei gyflwyno gan Lisa Gwilym bydd pump o bobl yn symud mewn i'r tŷ am gyfnod mewn ymgais i drawsnewid eu bywydau.

Bydd pum unigolyn (neu gleient) sydd â’r awch i drawsnewid eu bywydau ac i garu eu hunain eto, yn aros ar arfordir Ynys Môn dros gyfnod o saith penwythnos, meddai S4C.  

Gyda chymorth gan fentoriaid ac arbenigwyr profiadol, bydd y cleientiaid yn canolbwyntio ar wella eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Y pump fydd yn cymryd rhan yn y gyfres yw: 

1. Arwel Cullen (34 oed), peiriannydd i gwmni sy’n cynhyrchu stofiau llosgi coed o Bontllyfni.

2. Becky Richards (41 oed), o Rydaman sy’n athrawes Bioleg yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

3. Dylan Edwards (38 oed), dadansoddwr gemau fideo sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn wreiddiol o Bontnewydd ger Caernarfon.

4. Gwawr Job-Davies (40 oed) o Hen Golwyn sy’n ffisiotherapydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

5. Sharon Jones (58 oed) o Groeslon sy’n gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd. 

'Wynebu heriau'

Bydd pob un o'r cleientiaid yn cael eu paru gyda mentor arbennig yn ystod y cyfnod saith wythnos.

Un o’r mentoriaid yw cyn-chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod, Shane Williams.

“Mae e wedi bod yn fraint bod yn rhan o Tŷ Ffit – rhaglen bwysig sydd wirioneddol yn newid bywydau," meddai.

“Fel mentor, o’n i moyn sialens ond o’n i hefyd moyn gyrru’r person nes i ddewis i ffeindio’r cryfder hynny sydd tu fewn i ni gyd. 

"Fel rygbi, dyw’r daith yma ddim jest yn gorfforol – mae e am ddod o hyd i’r cryfder meddyliol yna a dysgu i gredu yn eich hun. " 

Image
Sion 'Monty' a'r mentoriaid eraill
Sion 'Monty' a'r mentoriaid eraill.

Y mentoriaid arall yw’r pencampwr Paralympaidd am daflu disgen a siot, Aled Davies, a Naomi Allsworth, yr arbenigwr ar oroesi yn y gwyllt sydd yn cynghori Academi Bear Grylls. 

Yn ogystal fydd Siôn ‘Monty’, perchennog ar gampfa a hyfforddwr ffitrwydd o Borthmadog yn un o'r mentoriaid. Mi aeth o drwy daith trawsnewid ei hun gan golli bron i bedair stôn ar ôl dod yn dad saith mlynedd yn ôl. 

A’r pumed mentor yw Caris Bowen, sy’n hyfforddwr nofio dŵr agored o Lanelli a goncrodd ei ffobia o ddŵr dwfn ar ôl goroesi cancr Hodgkins Lymphoma rhai blynyddoedd yn ôl yn 21 oed. 

I gynorthwyo'r cleientiaid fydd pedwar arbenigwr yn y maes iechyd hefyd yn rhan o dîm Tŷ Ffit. 

Yr Arbenigwyr yw’r hyfforddwr personol, Cadi Fôn, y maethegydd Angharad Griffiths, y meddyg teulu Dr Sherif Khalifa, a’r cwnselydd Sioned Lewis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.