Dartiau: Price yn curo Clayton i gyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd
Gerwyn Price yw'r chwaraewr cyntaf i gyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd wedi buddugoliaeth yn erbyn ei gyd Gymro, Jonny Clayton.
Fe wnaeth y ddau gwrdd yn y drydedd rownd nos Sul ym Mhalas Alexandra, Llundain.
Price aeth ar y blaen o ddwy set i ddim cyn i Clayton unioni'r sgôr yn y ras i'r gyntaf i bedair set.
Er gwaethaf ymdrechion Clayton, Price oedd enillydd y ddwy set olaf i sicrhau ei le yn rownd yr wyth olaf am y pumed tro yn y chwe blynedd ddiwethaf.
Er bod gan Price sgôr oedd â chyfartaledd tri dart o 92, dywedodd nad oedd yn chwarae ar ei orau.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n chwarae’n dda iawn yn y ddwy set gyntaf, ond dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd ar ôl hynny,” meddai.
“Mae’n debyg nad oeddwn i fy hun ar y llwyfan heddiw, ond mi fyddai'n fi fy hun o rownd yr wyth olaf ymlaen.
“Rwy’n gwybod os byddaf yn chwarae fel y gwnes yn y ddwy set gyntaf ar gyfer gweddill y gystadleuaeth, yna fe fydd yn anodd i bobl ennill yn fy erbyn."
Yma o Hyd
Cymro arall fydd yn gobeithio cyrraedd rownd yr wyth olaf yw Robert Owen.
Cyn y gystadleuaeth roedd angen i'r chwaraewr sy'n rhif 77 ar y rhestr ddetholion ennill tair gêm er mwyn cadw gafael ar ei garden gylchdaith, sef ei statws fel chwaraewr dartiau proffesiynol.
Enillodd yn erbyn Niels Zonneveld yn y rownd gyntaf, yna fe wnaeth e guro Gabriel Clemens o'r Almaen sydd 50 safle yn uwch nag e yn y rhestr ddetholion.
Nos Sul, curodd Ricky Evans, ar ôl gweiddi 'Yma o Hyd' i'w hun yn ystod yr ornest.
Mewn cyfweliad ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd ei fod wedi cael cystadleuaeth lwyddiannus.
Inline Tweet: https://twitter.com/PollyJames/status/1873471520204603665
"Dwi dal yma, dwi dal yma, Yma o Hyd," meddai.
"Dwi yma i wneud y gorau i fy nheulu, does dim ots gennai beth mae unrhyw un arall yn meddwl.
"Gobeithio gallai barhau yn y rownd nesaf, ond dwi wedi gwneud yn dda yn y gystadleuaeth felly dwi'n hapus iawn.
"Cofiwch os ydych chi'n Gymry... Yma o Hyd."
Fe fydd Owen yn herio Callan Rydz o Loegr brynhawn ddydd Llun ac fe fydd yr enillydd yn sicrhau ei le yn rownd yr wyth olaf.
Prif lun: PDC