Newyddion S4C

Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn yn Sir Gâr

Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi marwolaeth dyn yn Sir Gâr

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn arall wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth. 

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn 27 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, o beidio ag aros wedi gwrthdrawiad ac o fethu ag adrodd fod gwrthdrawiad wedi digwydd yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanpumsaint wedi ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau. 

Bu farw Aaron Jones, 38 oed, ar ôl iddo gael ei daro gan gar ger capel Caersalem nos Lun.

Roedd yn mynd â'i gi am dro adeg y gwrthdrawiad a ddigwyddodd rhwng 18:45 a 19:45.

Mae timau arbenigol yr heddlu a thimau ymchwilio fforensig yn parhau i ymchwilio, meddai Heddlu Dyfed-Powys. 

Mae teulu Aaron Jones yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.

Mewn datganiad dywedodd y llu bod y teulu wedi gofyn am “breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.