Newyddion S4C

Y chwilio'n parhau am yrrwr wedi i ddyn lleol farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

24/12/2024

Y chwilio'n parhau am yrrwr wedi i ddyn lleol farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar bobl i’w helpu i ddod o hyd i yrrwr yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gâr nos Lun.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Llanpumsaint rhwng cerbyd a dyn rhwng 18.45 a 19.45. Fe wnaeth gyrrwr y car adael heb stopio.

Bu farw'r cerddwr yn sgil ei anafiadau.

Mae'r dyn a fu farw wedi cael ei enwi'n lleol. Roedd Aaron Jones yn dad i ddau o blant, ac yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro ger capel Caersalem. 

Mae’r llu bellach wedi dweud eu bod yn chwilio am yrrwr y cerbyd a'u bod â "diddordeb penodol" i siarad â dyn oedd yn gyrru "cerbyd lliw glas sydd bellach â difrod amlwg iddo".

Roedd y car yn teithio tua’r gogledd trwy Lanpumsaint pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, meddai'r llu. 

Mae’r ffordd wedi cau ac mae disgwyl iddi barhau ar gau am gyfnod wrth i ymholiadau gael eu cynnal. 

'Trychinebus'

Dywedodd y cynghorydd lleol Bryan Davies, fod y sefyllfa'n "drychinebus".

"Mae'n anghredadwy, sefyllfa mor drychinebus," meddai.

"Bachgen lleol, mor frwdfrydig, gyda theulu ifanc, gwraig a dau o blant bach."

Ychwanegodd: "Mae'n anodd amgyffred beth mae'r teulu 'na'n mynd trwyddo bore 'ma."

Mae gorymdaith Siôn Corn oedd i fod i ddigwydd yn y pentref yn ystod y dydd wedi ei chanslo. 

Dywedodd pwyllgor parc Llanpumsaint ar gyfryngau cymdeithasol: "Oherwydd y digwyddiad torcalonnus dros nos yn y pentref, rydym wedi penderfynu canslo Gorymdaith Siôn Corn heddiw.

"Hoffem fel pwyllgor estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach ar yr adeg anodd hon."  

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth dashcam all fod o gymorth i gysylltu ar unwaith. 

Mae swyddogion arbenigol bellach yn rhoi cymorth i deulu’r dyn sydd wedi marw. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.