Rhybudd melyn am law trwm i Gymru dros y penwythnos
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i ran helaeth o Gymru yn ystod y penwythnos.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Sadwrn a 23:59 ddydd Sul.
Mae tebygolrwydd bychan y gall arwain at lifogydd mewn mannau, gan effeithio ar gartrefi a busnesau.
Fe all hefyd effeithio ar gynlluniau teithwyr ar drenau a bysiau, ac fe allai amodau gyrru fod yn anodd gyda rhai ffyrdd ar gau.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gall cyflenwadau trydan gael eu heffeithio hefyd.
Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i ardaloedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Abertawe, Bro Morgannwg a Wrecsam