Newyddion S4C

Gobeithio creu hanes gyda'r daith 'agosaf erioed' i'r haul

24/12/2024
Parker Solar Probe

Bydd Nasa yn gobeithio creu hanes ar Noswyl Nadolig eleni wrth i un o’i llongau gofod geisio hedfan yr agosaf erioed at yr haul.

Bydd llong ofod Parker Solar Probe yn gwibio heibio’r haul ar 435,000mph yn y gobaith o ddeall mwy am ei arwyneb ac awyrgylch.

Pe byddai llong yn teithio ar y cyflymder hwn ar y ddaear, byddai’n cwblhau taith rhwng Llundain ac Efrog Newydd o fewn 29 eiliad.

Mae gwyddonwyr yn gobeithio cael gwybod os ydy’r Parker Solar Probe wedi goroesi ei thaith ar 27 Rhagfyr.

Mae’r llong ofod eisoes wedi ymweld â’r haul 21 o weithiau ers 2018, gan deithio’n agosach bob tro.

Bydd yn rhaid iddi oroesi tymheredd o 1,400C, yn ogystal ag ymbelydredd a allai ddifrodi’r dechnoleg ar fwrdd y llong.

Mae’n gobeithio cyrraedd pellter o 3.8 miliwn o filltiroedd i ffwrdd o’r haul ddydd Mawrth. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.