Alun Wyn Jones i arwain y Llewod yn y prawf cyntaf yn Ne Affrica

Wales Online 21/07/2021
Llewod

Mae Warren Gatland wedi enwi tîm y Llewod fydd yn wynebu De Affrica yn y prawf cyntaf ar y penwythnos, gydag Alun Wyn Jones wedi’i ddewis fel capten.

Bydd y Cymro yn dychwelyd i’r maes lai na mis wedi iddo anafu ei ysgwydd wrth chwarae erbyn Siapan. 

Mae Dan Biggar a Wyn Jones hefyd wedi eu henwi yn y tîm, gyda Ken Owens a Liam Williams ar y fainc yn ôl Wales Online.

Mae disgwyl i Warren Gatland gynnal cynhadledd i’r wasg am 12:00 ddydd Mercher i drafod y penderfyniadau ymhellach.

Y tîm yn llawn:  Jack Conan, Courtney Lawes, Tom Curry, Stuart Hogg, Anthony Watson, Duhan van der Merwe, Robbie Henshaw, Elliot Daly, Dan Biggar ac Ali Price.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.