Newyddion S4C

Cip ar unig gêm y Cymru Premier JD ddydd Sul

Sgorio 22/12/2024
Pêl-droed

Am y tro cyntaf ers tymor 2018/19 nid Y Seintiau Newydd fydd ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru dros y Nadolig.

Ar ddydd Nadolig 2018 roedd Y Seintiau Newydd yn y 3ydd safle, bum pwynt y tu ôl i Gei Connah ar y brig (Y Barri yn 2il), ond fe lwyddodd cewri Croesoswallt i frwydro ‘nôl yn ail ran y tymor gan ennill y bencampwriaeth 12 pwynt yn glir o’r Nomadiaid yn y pen draw.

Mae’r Seintiau wedi colli pum gêm gynghrair am y tro cyntaf ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n ail y tu ôl i Gei Connah, ond pe bae’r pencampwyr yn ennill eu gêm wrth gefn y penwythnos hwn yna dim ond un pwynt fydd rhyngddyn nhw â’r ceffylau blaen, Pen-y-bont.

Does dim un clwb wedi ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru ar ôl colli pum gêm neu fwy ers i Bangor wneud hynny yn nhymor cynta’r 12 Disglair yn 2010/11.

Dyw Llansawel heb chwarae ers tair wythnos pan enillon nhw yn hwyr yn erbyn Y Drenewydd i sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn olynol gartref ar yr Hen Heol.

Ond dyw’r Cochion m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair oddi cartref a cholli’r chwech arall, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod ym Mhen-y-bont ym mis Medi. 

Roedd hi’n noson arbennig i Lansawel yn eu gêm gyfatebol yn erbyn y pencampwyr fis diwethaf gyda’r Cochion yn synnu’r Seintiau gan ennill o 3-1 ar ôl sgorio deirgwaith yn yr hanner cyntaf ar yr Hen Heol.

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅❌

Llansawel: ✅❌✅❌✅

Gemau cyn yr hollt:

Y Seintiau Newydd: Cfon (oc), Cei (c), Dre (c), Met (oc)

Llansawel: Met (oc), Barri (c), Hwl (oc), Aber (oc) 

Bydd uchafbwyntiau’r chwarae ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.