Newyddion S4C

Darlun gan ddisgybl lleol yn cael lle ar lori cwmni cludo o Wrecsam

ITV Cymru

Darlun gan ddisgybl lleol yn cael lle ar lori cwmni cludo o Wrecsam

Mae disgybl 15 oed o Ysgol Morgan Llwyd wedi cael gweld ei gwaith celf ar lori fawr wedi iddi ennill cystadleuaeth ddarlunio.

Roedd y gystadleuaeth gan gwmni C&M Transport i ddisgyblion ysgolion lleol Wrecsam yn annog y plant i ddarlunio llun yn seiliedig ar y ddinas.  

Wedi ei buddugoliaeth, doedd Juliette Devereux, 15 oed o Wrecsam ddim wedi rhagweld y byddai ei llun yn cael ei weld ar ffyrdd y Deyrnas Unedig.

Mae llun Juliette, sydd yn cynnwys darluniau o rhai o safleoedd poblogaidd Wrecsam a’r ddraig goch, wedi ei brintio ar lori enfawr y cwmni cludiant. 

Image
Lori Wrecsam

Mewn seremoni yn Ysgol Morgan Llwyd fe deithiodd y lori i iard yr ysgol er mwyn arddangos gwaith gwych Juliette.

Roedd hi’n synod mawr i Juliette, ac roedd ei mam a’i nain wedi ymuno â hi yn yr ysgol i ddathlu. 

Dywedodd Juliette wrth ITV Cymru: “Dwi wedi dychryn, mae yn syndod i mi. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn o’r darlun i ddweud y gwir. Mae ennill yn sioc, ac yn sypreis neis bod mam a nain yma.”

Yn ôl Juliette, roedd cynnwys rhai o brif elfennau Wrecsam yn bwysig, ond roedd hi hefyd eisiau cynnwys lluniau oedd yn symbolaeth o Gymru gyfan.

Image
Trailer design competition

Roedd yr ysgol wedi cadw'r enillydd yn gyfrinach am chwe wythnos, ac roedd hynny yn her yn ôl un athrawes. 

“Mae wedi bod yn gyfrinach anodd i'w chadw, ond roedd cael sypreis i Juliette yn wych,” meddai Ms Jessica Evans.

Yn ôl Johnno Williams o gwmni C&M Transport roedd y gystadleuaeth yn ffordd o arddangos eu bod nhw'n gwmni o Wrecsam. 

“Mae genom ni sêr Hollywood yn y ddinas rŵan gyda’r pêl-droed, ond mae yna fwy i’r ddinas na’r pêl-droed. Oedd o yn gyfle hefyd i weld beth mae Wrecsam yn golygu i’r plant. 

“Roedd y gystadleuaeth yn un da iawn, ac roedd y safon yn uchel ond dwi’n meddwl bod llun Julliete yn berffaith.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.