Emma Finucane yn ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

20/12/2024
Emma Finucane

Mae'r seiclwraig trac Emma Finucane wedi ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. 

Emma Finucane o Gaerfyrddin ydy'r fenyw gyntaf mewn 60 mlynedd i ennill tair medal ar gyfer Team GB mewn un Gemau Olympaidd. 

Enillodd fedal aur yn y ras sprint tîm gan dorri record byd cyn cael dwy fedal efydd yn y Keirin a'r ras sprint unigol yn y Gemau ym Mharis eleni.

Enillodd tîm merched pêl-droed Cymru wobr Tîm y Flwyddyn wedi iddynt gyrraedd prif gystadleuaeth am y tro cyntaf. 

Daeth cadarnhad ddydd Llun y bydd Cymru yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yng ngrŵp D yn Euro 2025. 

Mae Finucane yn ymuno â Geraint Thomas sydd hefyd wedi ennill y wobr ddwywaith. 

"Pan ges i wybod fy mod i wedi ei ennill eto, doeddwn i methu coelio'r peth," meddai.

"Mae cymaint o gampau a chymaint o bobl chwaraeon arbennig yng Nghymru yn haeddu'r wobr yma hefyd, ac mae'r ffaith fy mod i wedi ei ennill eto yn anhygoel - mae'n teimlo fel ennill medal Olympaidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.