Newyddion S4C

Donald Trump yn cwrdd â phennaeth TikTok

17/12/2024
Donald Trump

Mae Darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cwrdd â phrif weithredwr TikTok.

Daw hyn wrth i'r platfform frwydro yn erbyn cynlluniau i wahardd y cyfrwng cymdeithasol yn America.

Yn ôl adroddiadau, roedd disgwyl i Mr Trump gyfarfod Shou Zi Chew yn Florida ddydd Llun. 

Cafodd cyfraith ei phasio yn gynharach eleni sy'n golygu y bydd TikTok yn cael ei wahardd oni bai ei fod yn cael ei werthu gan y cwmni sy'n berchen arno, ByteDance, erbyn 19 Ionawr.

Mae'r cwmni wedi gwneud cais brys i'r Goruchaf Lys i ohirio'r gwaharddiad. 

Mae'r UDA eisiau i TikTok gael ei werthu neu ei wahardd yn sgil ei gysylltiadau honedig rhwng ByteDance a Tsieina. Mae TikTok a ByteDance wedi gwadu'r cysylltiadau. 

Mae Mr Trump yn erbyn y gwaharddiad, er ei fod wedi ei gefnogi yn ystod ei dymor cyntaf fel arlywydd.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, dywedodd Mr Trump y byddai ei weinyddiaeth yn "edrych ar TikTok.

"Mae gen i le cynnes yn fy nghalon ar gyfer TikTok, oherwydd fy mod i wedi ennill pleidlais y bobl ifanc o 34 pwynt."

Fe wnaeth mwyafrif o bobl rhwng 18 a 29 oed gefnogi Kamala Harris yn yr Etholiad Arlywyddol, ond roedd cynnydd mewn poblogrwydd ymysg pobl ifanc tuag at Trump ers yr etholiad yn 2020. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.