Darganfod corff dyn lleol mewn afon yng Nghaernarfon
Mae corff dyn lleol wedi cael ei ddarganfod mewn afon yng Nghaernarfon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Afon Seiont am tua 13.40 ddydd Sul, 15 Rhagfyr.
Cafodd corff dyn lleol 60 oed ei dynnu o'r dŵr meddai'r heddlu.
Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae'r crwner wedi cael gwybod.
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd.