Newyddion S4C

Dedfryd o garchar wedi'i gohirio ar ôl taflu ysgytlaeth dros Nigel Farage

Ysgytlaeth Farage

Mae dynes 25 oed wedi’i dedfrydu i 13 wythnos yn y carchar wedi’i gohirio am 12 mis ar ôl pledio’n euog i daflu ysgytlaeth dros arweinydd Reform UK Nigel Farage y tu allan i dafarn yn sir Essex yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Roedd Victoria Thomas Bowen wedi cyfaddef i ymosodiad trwy guro yn flaenorol ar ôl iddi daflu ei diod dros Mr Farage, sydd bellach yn AS Clacton, cyn taflu ei chwpan ato a cherdded i ffwrdd tu allan i dafarn Wetherspoons o'r enw Moon and Starfish, yn Clacton, Essex

Fe gyfaddefodd Thomas Bowen hefyd ddifrod troseddol ar ôl achosi £17.50 o ddifrod i siaced oedd yn eiddo i swyddog diogelwch Mr Farage, James Woolfenden.

Image
Hylif yn cael ei daflu dros Nigel Farage
Roedd Mr Farage wedi bod yn annerch cefnogwyr

Roedd Mr Farage wedi bod yn annerch cefnogwyr yn gynharach mewn rali yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Roedd Thomas Bowen wedi gwadu’r cyhuddiadau’n wreiddiol ac roedd i fod i ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan ym mis Hydref, ond newidiodd ei phle i euog cyn i’r achos ddechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.