Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi 'ymosodiad difrifol' ar ddyn yng Nghaerdydd

20/07/2021
Park Bute, Caerdydd
CC

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu'n ddifrifol ym Mharc Bute, Caerdydd fore dydd Mawrth. 

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am 01:10 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad. 

Yn ôl y llu, roedd y dyn wedi ei anafu'n ddifrifol ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru am driniaeth. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea: “Roedd hwn yn ymosodiad treisgar a pharhaus ar y dyn, sydd ag anafiadau all beryglu ei fywyd.

"Mae dioddef trais yn y modd hwn yn annioddefol, ac rydym yn cynnal nifer o ymholiadau i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol.

“Rydym yn ymwybodol fod nifer o bobl wedi bod yn yr ardal, ac ym Mharc Bute, yn ystod y cyfnod hwn, felly os ydych wedi gweld y digwyddiad neu efallai wedi clywed beth ddigwyddodd, dewch atom ni.

“Mae Ystafell Digwyddiad Difrifol wedi’i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd, felly rydym yn awyddus i dderbyn unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth gyda’n ymchwiliad.

"Fe fydd unrhyw un sydd yn cyflwyno gwybodaeth yn cael eu trin mewn dull sensitif." 

Llun: Neil Schofield-Hughes

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.