Newyddion S4C

Canslo'r Sioe Frenhinol yn 'siomi' mynychwyr

Laura Butters

Mae bridiwr merlod Shetland yn dweud bod hi wedi gorfod teithio dros y ffin i Loegr er mwyn cael mynychu sioeau amaethyddol, wrth i’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd cael ei chanslo am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn Lloegr mae sioeau amaethyddol wedi bod yn digwydd gyda thorfeydd bychain ers y gwanwyn ac mae rhai yn dweud bod hyn wedi achosi teimlad o rwystredigaeth.

Mae Laura Butters o Landrindod yn un sydd wedi cael llwyddiant mawr yn Lloegr. 

“Mae blwyddyn yma wedi bod yn anodd iawn. Yn anffodus mae rheolau Covid wedi golygu mae nifer o ddigwyddiadau awyr agored yng Nghymru wedi’i gadw at isafswm llwyr, ac o ganlyniad mae rhaid i ni deithio dros y ffin mewn i Loegr.”

Image
Maes y Sioe Frenhinol
Sioe Fawr Sir Efrog (Llun: ITV Cymru)

Mae’r bridiwr yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at lacio'r mesurau a digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn yr hydref.

“Hyd yn hyn dim ond tair sioe ‘dy ni wedi llwyddo i fynychu, mae mwy i ddod yn amlwg, ond rydyn ni dal i edrych ymlaen at ein sioe gyntaf yng Nghymru, sydd ychydig i ffwrdd eto.”

Cafodd y penderfyniad i gynnal y Sioe Frenhinol ar-lein ei wneud nôl ym mis Ionawr. Ar y pryd, roedd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai ymbellhau cymdeithasol yn debygol o aros dros yr haf. 

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y gall digwyddiadau mawr gael eu cynnal yng Nghymru o 9 Awst, er cynhaliwyd sioeau amaethyddol fel Sioe Fawr Sir Efrog yn Harrogate gyda gwylwyr wythnos ddiwethaf. 

Image
Laura yn ymarfer
Laura yn ymarfer â un o’i cheffylau (Llun: ITV Cymru)

Yn ôl Laura mae safon uchel Sioe Frenhinol Cymru, yn ogystal â’r ffaith y gafodd ei chanslo'r llynedd, yn ychwanegu i’r siomedigaeth.  

“Mae'n sioe mor wych, hon yw'r sioe orau. Gutted i fod e wedi’i ganslo am yr ail flwyddyn yn olynol.

“Nid oedd un ohonom yn rhagweld hwn yn digwydd, mae'n drist iawn.”

“Ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid i bawb fod yn ddiogel a ni’n gobeithio y bydd hi’n sioe fwy a gwell y flwyddyn nesaf. Mae cymaint i edrych ymlaen ato. ”

Image
Steve Hughson
Steve Hughson, Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol Cymru (Llun: ITV Cymru)

Mae Steve Hughson, sef prif weithredwr Sioe Frenhinol Cymru, hefyd yn rhannu’r teimlad o rwystredigaeth o weld sioeau amaethyddol tebyg yn mynd yn eu blaen dros y ffin yn Lloegr. 

“Mae’r gwahaniaeth yn Lloegr yn frustrating i fod yn onest, ond mae rhaid i ni weithio gyda’r rheolau yng Nghymru i ddilyn y rheolau a neud yn siŵr bod ni’n gallu trefnu’r digwyddiadau yn ddiogel. 

“Mae’n bwysig nawr i edrych am y dyfodol ond mae’n drist iawn i weld y cylch mawr yn wag, ond nawr ‘dy ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i drio trefnu digwyddiadau nawr yn hydref.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.